Mae Ofcom wedi cyhoeddi heddiw ei fod yn penodi Natalie Black CBE yn Gyfarwyddwr Grŵp newydd, Rhwydweithiau a Chyfathrebu.
Natalie oedd Comisiynydd Masnach EF cyntaf y DU ar gyfer Asia a’r Môr Tawel rhwng 2018 a 2023. Wedi’i lleoli yn Singapore, bu’n arwain strategaeth a gweithrediadau masnach y DU ar draws y rhanbarth. Cyn hynny, bu’n Ddirprwy Bennaeth Uned Polisi Rhif 10, yn Gyfarwyddwr yr Uned Niwed ar y Rhyngrwyd, ac yn Gyfarwyddwr y Swyddfa Seiberddiogelwch. Cyn ymuno â'r Gwasanaeth Sifil, Natalie oedd Pennaeth Staff Cyfarwyddwr Diogelwch Gemau Olympaidd Llundain 2012, a bu’n ymgynghorydd rheoli ac yn ysgolhaig Fulbright ym Mhrifysgol Harvard.
Yn ei swydd Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebu bydd Natalie yn gyfrifol am waith Ofcom yn y sectorau telegyfathrebiadau, post a rhwydweithiau, lle rydym yn ceisio diogelu defnyddwyr a hybu cystadleuaeth. Bydd hi hefyd yn arwain ein gwaith ar oblygiadau deallusrwydd artiffisial, gan oruchwylio unrhyw effaith reoleiddio ar Ofcom yn y dyfodol, a bydd yn Aelod Gweithredol o Fwrdd Ofcom.
Mae hi’n fraint cael fy mhenodi’n Gyfarwyddwr Grŵp, Rhwydweithiau a Chyfathrebu, a chwarae rhan yn y gwaith o sicrhau bod pobl yn cael y gorau o’u rhwydweithiau a’u gwasanaethau, sy’n hanfodol i gyfle a thwf economaidd. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r timau talentog ac arbenigol yn Ofcom, sy’n cael eu parchu ar draws y byd.
Natalie Black
Rwy'n falch iawn o groesawu Natalie i Ofcom. Mae ganddi gyfoeth o brofiad arwain yn y DU a thramor, a bydd ei harbenigedd mewn materion sy’n amrywio o seiberddiogelwch i niwed ar-lein yn amhrisiadwy.
O hyrwyddo buddiannau defnyddwyr i arfogi Ofcom ar gyfer y risgiau a’r cyfleoedd a ddaw yn sgil deallusrwydd artiffisial, rwy’n hyderus y bydd Natalie yn gwneud cyfraniad enfawr at sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb.
Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr.