Mae Cristina Nicolotti Squires wedi’i phenodi heddiw i arwain gwaith Ofcom o reoleiddio diwydiannau teledu, radio ac ar-alw’r DU.
Mae Cristina yn ymuno ag Uwch Dîm Rheoli Ofcom fel Cyfarwyddwr y Grŵp Darlledu a'r Cyfryngau. Hi fydd yn arwain y grŵp sy’n gyfrifol am bolisi a rheoleiddio darlledu, sy’n chwarae rôl ganolog wrth feithrin sector creadigol deinamig yn y DU.
Mae'r grŵp Darlledu a'r Cyfryngau Ofcom, y bydd Cristina yn ei arwain, yn pennu ac yn cynnal safonau ar yr awyr. Mae ein gwaith rheoleiddio'n amddiffyn cynulleidfaoedd rhag deunydd sarhaus a niweidiol, yn cynnal uniondeb rhaglenni newyddion a materion cyfoes, ac yn cadw rhyddid mynegiant. Mae’r Grŵp hefyd yn sicrhau bod darlledwyr yn parhau i ddarparu rhaglenni a gwasanaethau o safon sy’n diwallu anghenion newidiol gwylwyr a gwrandawyr.
Daw Cristina â mwy na 30 mlynedd o brofiad darlledu i’r rôl. Yn fwyaf diweddar bu’n Gyfarwyddwr Cynnwys yn Sky News, gan arwain timau sy’n gyfrifol am greu cynnwys ar draws llwyfannau teledu, radio a digidol. Yn ystod y cyfnod hwn, llwyddodd i ail-lansio Sky News at Ten a goruchwylio’r gwaith o greu sioe Sky News oriau brig sy’n canolbwyntio ar newid yn yr hinsawdd. Roedd ganddi hefyd gyfrifoldeb golygyddol dros sioeau am ganlyniadau etholiad yr Unol Daleithiau.
Yn flaenorol roedd Cristina yn Olygydd ar raglen 5 News ITN, gan fod yn gyfrifol am ddarparu rhaglenni newyddion teledu a chynnwys digidol i Channel 5. Bu hefyd mewn swyddi arweinyddiaeth yn ITV News.
Wrth siarad am ei phenodiad, dywedodd Cristina: “Nid ydym erioed wedi cael cymaint o ddewis o ble a sut i gael ein hadloniant a’n gwybodaeth, ac nid yw erioed wedi bod mor bwysig i sicrhau tegwch a chywirdeb, ac ar yr un pryd cofleidio'r egwyddor sylfaenol o ryddid lleferydd.
“Rwy’n falch iawn o fod yn ymgymryd â’r rôl hon o eirioli dros wylwyr a gwrandawyr ar adeg mor dyngedfennol i ddiwydiant cyfryngau’r DU.”
Y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom: “Bydd profiad darlledu Cristina yn gaffaeliad mawr i Ofcom. Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda hi.”
Diolchodd Melanie hefyd i Siobhan Walsh, uwch gyfarwyddwr darlledu Ofcom, sydd wedi arwain y Grŵp Darlledu a'r Cyfryngau ar sail dros dro ers mis Ebrill 2023. Bydd Siobhan yn parhau yn y rôl hyd nes i Cristina gyrraedd, cyn dychwelyd i'w rôl flaenorol.