Bwrdd Cynnwys Ofcom

Cyhoeddwyd: 30 Ionawr 2024
Diweddarwyd diwethaf: 20 Tachwedd 2024

Mae’r Bwrdd Cynnwys yn un o bwyllgorau’r prif Fwrdd ac mae’n gosod ac yn gorfodi ansawdd a safonau ar gyfer teledu a radio. Mae ganddo aelodau sy’n cynrychioli pob un o wledydd y DU, ac mae’n cynnwys aelodau sydd â phrofiad helaeth o ddarlledu. Mae’n gyfrifol am ddeall, dadansoddi a hyrwyddo lleisiau a buddiannau’r gwylwyr, y gwrandawyr a dinasyddion.

Mae’r Bwrdd Cynnwys yn un o bwyllgorau prif Fwrdd Ofcom, gyda chyfrifoldeb cynghori a dirprwyedig dros amrywiaeth eang o faterion sy’n ymwneud â chynnwys, gan ddelio’n bennaf â darlledu. Cafodd ei sefydlu o dan statud, yn benodol Adran 12(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003.

Bydd Bwrdd Ofcom yn gofyn am gyngor ac argymhellion gan y Bwrdd Cynnwys ar unrhyw agweddau ar benderfyniadau sy’n ymwneud â chynnwys y mae wedi’u cadw iddo ef ei hun. Caiff yr holl benderfyniadau eraill sy’n ymwneud â chynnwys eu dirprwyo i’r Bwrdd Cynnwys.

Y Bwrdd Cynnwys yw prif fforwm Ofcom ar gyfer rheoleiddio ansawdd a safonau teledu a radio. Mae’n gyfrifol am ddeall, dadansoddi a hyrwyddo lleisiau a buddiannau’r gwylwyr, y gwrandawyr a dinasyddion. Bydd yn trin ac yn trafod materion lle bydd buddiannau dinasyddion yn mynd y tu hwnt i fuddiannau defnyddwyr, gyda ffocws ar yr agweddau hynny o’r budd cyhoeddus na fydd cystadleuaeth a grymoedd y farchnad yn eu cyrraedd.

Bydd aelodau’r Bwrdd Cynnwys yn ystyried materion cynnwys mewn tri chategori:

Haen 1: yn ymwneud â rheoleiddio cynnwys negyddol. Mae’n edrych ar faterion sy’n ymwneud yn bennaf â niwed a thramgwydd, cywirdeb a didueddrwydd, tegwch a phreifatrwydd.

Haen 2:  yn ymwneud â materion meintiol fel cwotâu ar gyfer cynyrchiadau teledu annibynnol, cynyrchiadau rhanbarthol a chynyrchiadau gwreiddiol o’r DU/UE.

Haen 3: yn ymdrin â'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus; ac yn y cyd-destun hwn, mae gan Ofcom gyfrifoldeb penodol am ITV, Channel 4 a Five.

Bydd yr aelodau hefyd yn ystyried rheoleiddio fformat ar gyfer radio ac yn cynghori Bwrdd Ofcom ar faterion eraill yn ôl yr angen.

Aelodau rhan amser yw mwyafrif aelodau’r Bwrdd Cynnwys ac maent yn dod o gefndiroedd gwahanol ledled y DU. Mae pedwar yn cael eu penodi i gynrychioli barn a buddiannau pobl sy’n byw yng Nghymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

24 Ionawr 2023

4 Ebrill 2023

2 Mai 2023

4 Gorffennaf 2023

3 Hydref 2023

21 Tachwedd 2023

Clive Jones, Cadeirydd

Cafodd Clive Jones ei eni a’i fagu yng nghymoedd de Cymru, a threuliodd y rhan fwyaf o’i fywyd gwaith yn ITV fel newyddiadurwr, cynhyrchydd a golygydd gyda YTV a TV-AM ac yn ddiweddarach fel Prif Swyddog Gweithredol Central Television a Grŵp Teledu Carlton. Bu hefyd yn Rheolwr Gyfarwyddwr ITV Network ac ef oedd Prif Swyddog Gweithredol cyntaf ITV News and Regions, ar ôl creu ITV plc.

Hyfforddodd fel newyddiadurwr gyda’r Yorkshire Post ar ôl graddio o’r LSE.

Mae Clive hefyd yn gadeirydd Sightsavers, elusen yn y DU ar gyfer pobl sy’n colli golwg, ac Ymddiriedolaeth Runnymede, sef prif felin drafod cydraddoldeb hiliol y DU, ac ef yw Ombwdsmon y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddi Newyddiadurwyr. Cadeiriodd y Pwyllgor Argyfyngau Brys, roedd ar fwrdd S4C a’i gangen fasnachol S4C Masnachol am chwe blynedd, ac mae’n gyn-gadeirydd Cronfa Eiddo Deallusol Cymru a National Theatre Wales.

Ymunodd Clive Jones â Bwrdd Ofcom ar 12 Chwefror 2024 pan ddaeth yn Gadeirydd y Bwrdd Cynnwys hefyd. Mae ei benodiad yn parhau tan 11 Chwefror 2028.

Will Harding

Mae gan Will bron i 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiant cyfryngau. Dechreuodd ei yrfa fel ymgynghorydd rheoli gyda KPMG, cyn treulio pum mlynedd yn BBC Worldwide (BBC Studios erbyn hyn) lle bu’n gweithio ar draws gweithrediadau masnachol a rhyngwladol y BBC.

Yn ddiweddarach, helpodd i lansio ask.com yn y DU cyn symud i Sky, lle daeth yn Gyfarwyddwr Masnachol a Gweithrediadau ei fusnes cyfryngau newydd. Ymunodd â GCap Media plc yn 2006 fel Cyfarwyddwr Strategaeth Grŵp.
Ar ôl i Global Media ac Entertainment Ltd brynu GCap Media yn 2008, cafodd ei benodi’n Brif Swyddog Strategaeth Global ac ymunodd â phrif fwrdd Global. Yn ystod ei gyfnod yn Global, roedd Will yn gyfrifol am sefydlu'r Global Academy, sef ysgol y wladwriaeth ar gyfer pobl ifanc o bob cefndir sydd eisiau dechrau gyrfa yn y diwydiannau creadigol. Fe wnaeth roi’r gorau i’w ddyletswyddau ar Fwrdd Global ac Entertainment Ltd ym mis Rhagfyr 2020.

Ers 2021, mae’n un o Gyfarwyddwyr Anweithredol Primedia, y prif grŵp cyfryngau a hysbysebion sy’n canolbwyntio ar Affrica, ac roedd yn un o Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Addysg Baker Dearing rhwng 2021 a 2024. Daeth yn un o Ymddiriedolwyr yr elusen Addysg a Chyflogwyr yn 2024

Ymunodd Will Harding â Bwrdd Ofcom ar 3 Hydref 2022. Mae ei benodiad yn parhau tan 2 Hydref 2026.

Bob Downes

Cafodd Bob Downes ei benodi’n aelod o Fwrdd Ofcom o 1 Chwefror 2018 ymlaen. Mae’n aelod o Fwrdd Cynnwys Ofcom a’r Pwyllgor Pobl. Bob oedd cadeirydd Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban hyd at 2023. Mae’n cadeirio Corff Goruchwylio Annibynnol y Comisiwn ar gyfer Rheoleiddio Cyfathrebiadau, sy’n goruchwylio'r gwaith o weithredu gwell Model Llywodraethu Rheoleiddiol yn Iwerddon gan Eir. Mae Bob yn gynghorydd i nifer o fusnesau technoleg bach, gan gynnwys Kube Networks yn Glasgow. Mae ganddo gefndir mewn telegyfathrebiadau, sefydliadau celfyddydol a diwylliannol a gyda phrifysgolion busnes a thechnoleg.

Ymunodd Ben Downes â Bwrdd Ofcom ar 1 Chwefror 2018. Mae ei benodiad yn parhau tan 31 Ionawr 2026.

Yr Athro Ruth McElroy

Ruth McElroy yw’r aelod o’r Bwrdd Cynnwys sy’n cynrychioli buddiannau a barn pobl sy’n byw yng Nghymru. Mae Ruth yn Athro Diwydiannau Creadigol ac yn Bennaeth yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor. Mae ganddi dros ugain mlynedd o brofiad o addysgu ac ymchwilio i’r cyfryngau yn Addysg Uwch y DU, gan ganolbwyntio ar y sector sgrin, polisi cyfryngau a hunaniaeth ddiwylliannol.

Mae hi’n ymgynghorydd i Media Cymru (consortiwm arloesi Strength in Places sy’n cael ei ariannu drwy UKRI) ac yn Gyd-gyfarwyddwr Clwstwr Creadigol, un o naw Clwstwr Creadigol Ymchwil a Datblygu’r DU. Ruth yw Cadeirydd Bwrdd Ffilm Cymru Wales, yr asiantaeth datblygu ffilm ar gyfer ffilm yng Nghymru. Mae hi hefyd yn Aelod o Fwrdd Gogledd Creadigol/Creative North sy’n cefnogi rhwydweithio ar draws diwydiannau creadigol gogledd Cymru.

Ymunodd Rachel â’r Bwrdd Cynnwys ar 1 Mawrth 2022. Mae ei phenodiad yn parhau tan 1 Mawrth 2025.

Simon Bucks

Mae Simon Bucks wedi cael gyrfa hir ar lefel uwch ym maes darlledu a’r cyfryngau digidol. Mae ganddo brofiad fel newyddiadurwr ac fel swyddog golygyddol, ar ôl dal swyddi yn Sky News, London News Network ac ITN.

Mae Simon yn Gymrawd Cymdeithas y Golygyddion a chyn hynny bu’n gyfarwyddwr ac yn Llywydd y Gymdeithas. Mae’n Ymddiriedolwr ac yn Ysgrifennydd Anrhydeddus y Gymdeithas Deledu Frenhinol. Yn fwyaf diweddar, Simon oedd Prif Weithredwr BFBS, y sefydliad nid-er-elw a sefydlwyd i ddiddanu a hysbysu Lluoedd Arfog Prydain ar draws y byd.

Ymunodd Simon â’r Bwrdd Cynnwys ar 1 Medi 2023. Mae ei benodiad yn parhau tan 31 Awst 2026.

Stephen Nuttall

Mae gan Stephen Nuttall dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad o weithio fel uwch weithredwr ac ymgynghorydd yn y diwydiannau chwaraeon, y cyfryngau a digidol. Mae swyddi blaenorol Stephen yn cynnwys Uwch Gyfarwyddwr yn YouTube EMEA a Chyfarwyddwr Masnachol Grŵp yn Sky.

Mae Stephen hefyd wedi bod yn aelod o fwrdd Team Sky (tîm beicio proffesiynol Sky), Freeview, a’r National Geographic Channel.

Mae gan Stephen MBA o Ysgol Rheolaeth SDA Bocconi ym Milan, gradd mewn Ffiseg Gymhwysol o Brifysgol Nottingham ac mae’n Ddirprwy Gadeirydd ac yn Is-lywydd Ymgysylltu gyda Chymdeithas Wyddoniaeth Prydain.

Ymunodd Stephen â’r Bwrdd Cynnwys ar 10 Rhagfyr 2018. Mae ei benodiad yn parhau tan 9 Rhagfyr 2024.

Alison Marsden

Ymunodd Alison ag Ofcom yn 2007. Ar hyn o bryd mae hi’n Gyfarwyddwr Safonau a Diogelu Cynulleidfaoedd. Mae hi’n arwain tîm sy’n gyfrifol am osod a gorfodi safonau cynnwys ar gyfer gwasanaethau teledu, radio ac ar-alw, gan gynnwys trin ac asesu cwynion gan wylwyr a gwrandawyr. Mae hi hefyd yn gyfrifol am y tîm sy’n gwneud gwaith Ofcom ar hysbysebion teledu, radio, ar-alw ac ar-lein.

Ymunodd Alison ag Ofcom fel arbenigwr safonau darlledu ac mae hefyd wedi goruchwylio swyddogaeth trwyddedu darlledu Ofcom. Cyn ymuno ag Ofcom, roedd Alison yn gweithio mewn cynyrchiadau teledu yn y BBC o 1997 tan 2003 yn cynhyrchu ac yn cyfarwyddo rhaglenni ffeithiol ac arbenigol, ac wedyn ar gyfer cwmnïau cynhyrchu annibynnol amrywiol.

Peter Horrocks

Mae Peter yn arweinydd profiadol ym meysydd y cyfryngau, addysg uwch a datblygu economaidd. Yn y BBC, bu’n Olygydd Panorama, Newsnight ac Elections rhwng 1992 a 2001. Roedd ei rolau arwain yn cynnwys Pennaeth Materion Cyfoes, Pennaeth Newyddion Teledu a Phennaeth yr Ystafell Newyddion Amlgyfrwng. Roedd yn Gyfarwyddwr y BBC World Service rhwng 2009 a 2014.

Roedd yn aelod o Fwrdd Masnachol y BBC a Grŵp Cyfarwyddyd y BBC rhwng 2011 a 2014. Enillodd wobrau BAFTA fel golygydd Newsnight ac fel cynhyrchydd gweithredol y gyfres ddogfen The Power of Nightmares. Roedd Peter yn Is-Ganghellor y Brifysgol Agored rhwng 2015 a 2018. Yn 2015 cafodd CBE am Wasanaethau i Ddarlledu. Mae’n Gadeirydd Learna Ltd, busnes addysg feddygol.

Ymunodd Peter â’r Bwrdd Cynnwys ar 1 Tachwedd 2020. Mae ei benodiad yn parhau tan 31 Hydref 2026.

Dekan Apajee

Dekan Apajee yw’r aelod o’r Bwrdd Cynnwys sy’n cynrychioli buddiannau a barn pobl sy’n byw yn Lloegr. Graddiodd Dekan gyda gradd mewn Peirianneg Awyrofod, ond penderfynodd ddilyn ei frwdfrydedd dros newyddiaduraeth ac ymunodd â’r BBC yn 2002. Dechreuodd ei yrfa mewn rôl ymchwilydd, gan ddatblygu i fod yn newyddiadurwr darlledu a chynhyrchydd yn gweithio i sawl adran, gan gynnwys BBC London, BBC News Channel a BBC Comedy. Cynhyrchodd amrywiaeth o gynnwys digidol unigryw yn canolbwyntio ar y gymuned cyn Gemau 2012 Llundain cyn gadael y gorfforaeth yn 2012 a dechrau ei gwmni hyfforddi a chynhyrchu ei hun.

Mae Dekan yn hyfforddwr arweinyddiaeth proffesiynol ac yn eiriolwr angerddol dros ymgysylltu cymunedol. Fe sefydlodd Allsortz Open Mic (2011-2017), Cwmni Buddiannau Cymunedol sy’n meithrin artistiaid newydd. Mae’n aelod o fwrdd anweithredol Cwmni Buddiannau Cymunedol Big Ideas lle mae’n cynnig gwybodaeth strategol. Mae ei gyfnod yn yr Youth Media Agency (2012-2015) a’r Rich Mix Cultural Foundation (2012-2016) yn tanlinellu ei ymrwymiad i gefnogi mentrau cyfryngau newydd a rhaglenni diwylliannol. Ar hyn o bryd, mae’n arwain Adran y Cyfryngau ym Mhrifysgol Dwyrain Llundain, gyda diddordeb brwd mewn newyddion, cynhyrchu digidol, deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, ac addysg uwch.

Ymunodd Dekan â’r Bwrdd Cynnwys ar 1 Tachwedd 2020. Mae ei benodiad yn parhau tan 31 Hydref 2025.

Kim Shillinglaw

Mae gan Kim Shillinglaw 30 mlynedd o brofiad yn y Cyfryngau, Yn gyn Rheolwr BBC2 a BBC 4 tan 2006 ac wedi hynny, yn rhedeg busnesau masnachol ar gyfer EndemolShine, ac mewn sawl rôl Comisiynu. Mae’n Gyfarwyddwr Anweithredol ar sawl cwmni, yn cynnwys Natural England, ac yn Ymddiriedolwr yn y sefydliad technoleg Raspberry Pi.

Yn EndemolShine, bu Kim yn arwain cwmnïau masnachol o golled i elw cyn iddynt gael eu gwerthu’n llwyddiannus. Yn BBC2 a BBC4, bu’n gyfrifol am foderneiddio sianeli gyda rhaglenni poblogaidd fel The Real Marigold Hotel, Inside The Factory, Muslims Like Us a’r comedi sefyllfa trawsryweddol cyntaf ym Mhrydain, Boy Meets Girl. Roedd hi’n gyfrifol am ddarlledu Pêl-droed Menywod, y fenyw gyntaf i gyflwyno QI a chyflwynydd heb fod yn wyn cyntaf Darlithoedd y Nadolig. Tyfodd frandiau domestig fel Stargazing Live a Springwatch, a rhaglenni poblogaidd rhyngwladol fel Frozen Planet, Africa, Planet Earth II a Blue Planet II. Lluniodd Flwyddyn Wyddoniaeth y BBC a’r ymgyrch allgymorth fwyaf, Make It Digital. Cyn hynny, ym maes Comisiynu Plant, creodd Horrible Histories, cyfres a enillodd sawl gwobr.

Mae Kim wedi cadeirio Bwrdd Economi Greadigol NESTA, Tasglu Incwm Masnachol a Bwrdd Ffeithiol y BBC ac wedi cynghori’r Amgueddfa Wyddoniaeth, yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS). Mae hi’n cadeirio Discovery Decade, prosiect Ymchwil a Datblygu.

Ymunodd Kim â’r Bwrdd Cynnwys ar 1 Tachwedd 2020. Mae ei phenodiad yn parhau tan 31 Hydref 2026.

Maria McCann

Maria McCann yw’r aelod o’r Bwrdd Cynnwys sy’n cynrychioli buddiannau a barn pobl sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon. Mae gan Maria dros 40 mlynedd o brofiad yn y diwydiant cyfathrebu a hi yw sylfaenydd McCann Public Relations, practis siambrau sy'n arbenigo mewn Cyfathrebu yng nghyswllt Enw Da ac Argyfyngau gydag arbenigedd mewn platfformau digidol.

Yn gyn-newyddiadurwr print a darlledu sy’n gweithio ar draws y byd cyfryngau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, roedd Maria ymysg yr arloeswyr cynnar yn y sector cynhyrchu teledu annibynnol. Mae ei swyddi blaenorol ar fyrddau wedi cynnwys Northern Ireland Screen, Pwyllgor Moeseg Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Oxfam Iwerddon. Mae gan Maria radd meistr mewn Cyfraith a Moeseg Feddygol ym Mhrifysgol Keele ac mae’n Is-gadeirydd Cymdeithas Dai Clanmil ar hyn o bryd.

Ymunodd Maria â’r Bwrdd Cynnwys ar 21 Tachwedd 2022. Mae ei phenodiad yn parhau tan 20 Tachwedd 2025.

Cristina Nicolotti Squires

Ymunodd Cristina ag Ofcom ym mis Ionawr 2024 ac mae hi’n Gyfarwyddwr Grŵp ar gyfer Darlledu a’r Cyfryngau, gan arwain gwaith Ofcom i gefnogi sector darlledu iach a bywiog sy’n gwasanaethu holl wasanaethau teledu, radio a fideo ar-alw y DU mewn tirwedd sy’n newid yn gyson ac sy’n symud yn gyflym.

Ymunodd Cristina ag Ofcom ar ôl 35 mlynedd fel newyddiadurwr, ac mae ganddi gefndir yn y sector masnachol. Cyn dechrau gweithio i Ofcom, roedd hi’n Gyfarwyddwr Cynnwys yn Sky News ac yn gyfrifol am yr allbwn ar draws teledu, ar-lein, radio/podlediadau a rhaglenni dogfen. Cyn hynny, roedd hi yn ITN am 22 mlynedd yn gweithio mewn nifer o rolau gwahanol, gan gynnwys cyfnodau fel cynhyrchydd maes mewn lleoliadau ledled y byd, golygydd rhaglen flaenllaw News at Ten ITV a Golygydd 5 News ar Channel 5. Yn rhan o’i gyrfa, llwyddodd i ennill Gwobr RTS am Raglen Newyddion y Flwyddyn yn 2010. Mae hi’n falch iawn o’r cyflawniad hwn, nid yn unig am ennill y wobr, ond oherwydd datganiad y beirniaid, a nododd mai dyma’r rhaglen a oedd wedi llwyddo i “ddeall Prydain”. Y cysylltiad dwfn hwnnw â chynulleidfaoedd yw’r hyn sydd wedi ei harwain at Ofcom lle mae hi’n angerddol dros sicrhau ein bod yn diogelu pob cynulleidfa ar draws y DU.

Nodwch fod y cofnodion yn Saesneg yn unig.

Minutes of the 186th meeting of the Ofcom Content Board, held on 23 January 2024
Published 8 August 2024

Minutes of the 185th meeting of the Ofcom Content Board, held on 21 November 2023 (PDF File, 194 KB)
Published 25 June 2024

Minutes of the 184th meeting of the Ofcom Content Board, held on 3 October 2023 (PDF File, 169.2 KB)
Published 18 December 2023

Minutes of the 183rd meeting of the Ofcom Content Board, held on 4 July 2023 (PDF File, 187.9 KB)
Published 18 December 2023

Minutes of the 182nd meeting of the Ofcom Content Board, held on 2 May 2023 (PDF File, 163.4 KB)
Published 30 August 2023

Minutes of the 181st meeting of the Ofcom Content Board, held on 4 April 2023 (PDF File, 205.1 KB)
Published 30 August 2023

Minutes of the 180th meeting of the Ofcom Content Board, held on 24 January 2023 (PDF File, 215.5 KB)
Published 30 August 2023

Minutes of the 179th meeting of the Ofcom Content Board, held on 22 November 2022 (PDF File, 213.4 KB)
Published 13 April 2023

Minutes of the 178th meeting of the Ofcom Content Board, held on 20 September 2022 (PDF File, 211.0 KB)
Published 13 April 2023

Minutes of the 177th meeting of the Ofcom Content Board, held on 5 July 2022 (PDF File, 189.1 KB)
Published 17 March 2023

Minutes of the 176th meeting of the Ofcom Content Board, held on 3 May 2022 (PDF File, 182.4 KB)
Published 17 March 2023

Ein polisi yw cadw cofnodion bwrdd a phwyllgor ar ein gwefan am ddwy flynedd yn unig. Gallwch ddod o hyd i'r cofnodion eraill drwy'r Archif Cenedlaethol.

Yn ôl i'r brig