Mae’r Rhwydwaith Rheoleiddwyr Diogelwch Ar-lein Byd-eang (GOSRN) heddiw wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol cyntaf, a’i Gynllun Strategol ar gyfer 2025-2027.
Sefydlwyd y Rhwydwaith ddwy flynedd yn ôl i ddod â rheoleiddwyr sy'n gweithio ar ddiogelwch ar-lein o awdurdodaethau ledled y byd at ei gilydd, ac erbyn hyn mae ganddo 25 o aelodau ac arsylwyr o chwe chyfandir. Mae'n galluogi rheoleiddwyr i rannu profiad, arbenigedd a thystiolaeth, gan baratoi'r ffordd ar gyfer dulliau rhyngwladol cydlynol o reoleiddio diogelwch ar-lein.
Mae'r Rhwydwaith wedi nodi'r tair blaenoriaeth thematig ganlynol a byddant yn canolbwyntio arnynt dros y tair blynedd nesaf:
- Adeiladu cydlyniad rheoleiddio ar draws awdurdodaethau. Mae cydlyniad rheoleiddiol yn bwysig er mwyn caniatáu i reoleiddwyr fynd i'r afael â fframweithiau newydd i gefnogi ei gilydd i weithredu rheoleiddio diogelwch ar-lein effeithiol, er mwyn galluogi cwmnïau i elwa o economïau cydymffurfio o raddfa a sicrwydd cyfreithiol, ac yn anad dim, i sicrhau nad yw diogelwch ar-lein defnyddwyr y rhyngrwyd yn ein priod wledydd yn stopio 'ar y ffin'.
- Cyfrannu tuag at gasglu gwybodaeth yn seiliedig ar dystiolaeth o ddiogelwch ar-lein a rhannu arferion da. Bydd casglu tystiolaeth yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer rheoleiddio diogelwch ar-lein yn gyffrous, a bydd canolbwyntio ar y flaenoriaeth hon yn galluogi rheoleiddwyr, llywodraethau a llunwyr polisi i rannu arbenigedd a datblygu offer ac arferion rheoleiddio newydd. Bydd ein gwaith i ymdrin â rhannu arferion da hefyd yn cefnogi rheoleiddwyr newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg i ddysgu o'n profiadau wedi eu casglu ynghyd wrth iddynt ddechrau ar eu taith rheoleiddio diogelwch ar-lein eu hunain.
- Hwyluso rhannu gwybodaeth a chydlynu i hyrwyddo cydymffurfiaeth. O ddechrau'r Rhwydwaith, mae rheoleiddwyr wedi canfod y gallu i rannu'n anffurfiol fel un o rannau mwyaf gwerthfawr ein gwaith. Bydd rhannu gwybodaeth o'r math hwn yn dyfnhau ein dealltwriaeth o brofiadau defnyddwyr ar lwyfannau ac yn cryfhau ein gallu i sicrhau fod llwyfannau yn atebol ar gyfer diogelwch defnyddwyr – yn enwedig lle mae risgiau o niwed trawsffiniol neu achosion o ddiffyg cydymffurfio systemig.
Yn ogystal, bydd y Rhwydwaith yn parhau i ddatblygu partneriaethau byd-eang, yn cyfrannu at ddadleuon byd-eang ar faterion diogelwch ar-lein, ac yn rhannu ein dysgu a'n hallbynnau gydag eraill.
Bydd Ofcom yn parhau i Gadeirio’r Rhwydwaith am yr ail flwyddyn yn 2025.