Global Online Safety Regulators Network logo

Rheoleiddwyr diogelwch ar-lein ar draws y byd yn mapio gweledigaeth i wella cydgysylltu rhyngwladol

Cyhoeddwyd: 10 Mehefin 2024

Heddiw, mae rheoleiddwyr diogelwch ar-lein o bob cwr o’r byd wedi amlinellu eu gweledigaeth ar sut gall dulliau rheoleiddio rhyngwladol ar gyfer diogelwch ar-lein fod yn fwy cydlynol a chydgysylltiedig.

Mae’r Rhwydwaith Rheoleiddwyr Diogelwch Ar-lein Byd-eang yn dwyn ynghyd 18 o reoleiddwyr ac arsyllwyr o bum cyfandir. Heddiw, mae’r Rhwydwaith wedi cyhoeddi ei ail ddatganiad safbwynt (PDF, 379.1 KB) ar sut bydd rheoleiddwyr yn cydweithio i fynd i’r afael â natur fyd-eang rheoleiddio diogelwch ar-lein.

Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Ofcom ei ganllawiau drafft ar amddiffyn plant ar-lein yn y DU. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad yw’r risgiau y mae plant yn eu hwynebu ar-lein na’r gwasanaethau ar-lein maen nhw’n eu defnyddio wedi’u cyfyngu i ffiniau cenedlaethol neu gyfandirol. Am y rhesymau hynny, rydym ni - a'n partneriaid rhyngwladol - yn gweithio ar ddatblygu ein gallu a'n dulliau rheoleiddio, i gyflawni'r canlyniadau a nodir yn ein rheolau diogelwch ar-lein perthnasol ac i sicrhau bywyd mwy diogel ar-lein i blant ym mhob man.

Er bod ein trefniadau rheoleiddio yn amrywio mewn rhai ffyrdd, mae ein fframweithiau’n debyg mewn sawl ffordd allweddol.

Drwy fapio’r hyn sy’n debyg yn ein cylchoedd gwaith rheoleiddio, mae’r Rhwydwaith wedi dod o hyd i gyfleoedd mewn nifer o feysydd i sicrhau bod ein cyfundrefnau yn cydlynu. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Adnoddau rheoleiddio: Byddwn yn ceisio datblygu metrigau cyffredin ar gyfer ein methodolegau asesu risg a’n dulliau gwerthuso, er mwyn lleihau unrhyw wahaniaethau diangen rhyngddynt.
  • Cwynion defnyddwyr: Bydd y rheini ohonom sy’n casglu cwynion defnyddwyr yn rhannu ein profiad a’n tystiolaeth. Lle ceir achosion o ddiffyg cydymffurfio systemig ar draws awdurdodaethau, gallai’r Rhwydwaith ystyried gweithio’n agosach ar ymchwiliadau a chamau gorfodi.
  • Ceisiadau am wybodaeth: Byddwn yn ceisio cynhyrchu data byd-eang y gellir ei gymharu mwy sy’n cyfrannu’n well at ein dadansoddiad o dueddiadau, drwy gydlynu’r mathau o gwestiynau rydym yn eu gofyn am ddiwydiant fel rhan o’n gwaith rheoleiddio.
  • Mesurau diogelwch: Byddwn yn ceisio nodi cyfres gyffredin o gamau rhesymol y gall gwasanaethau eu cymryd i fynd i’r afael â niwed a ffactorau risg penodol drwy ddefnyddio ein profiadau o arferion da.

“Mae hwn yn gam pwysig ymlaen i’r Rhwydwaith ac i’n cenhadaeth i greu bywyd mwy diogel ar-lein lle bynnag y bydd pobl yn defnyddio’r rhyngrwyd. Heddiw, rydym wedi nodi gweithgareddau a ffrydiau gwaith newydd ar y cyd a fydd yn galluogi systemau rheoleiddio rhyngwladol mwy cydlynol, sydd o fudd i ddefnyddwyr a chwmnïau sy’n ceisio cydymffurfio.”

Gill Whitehead, Cadeirydd presennol y Rhwydwaith a Chyfarwyddwr Grŵp Diogelwch Ar-lein Ofcom

Mae’r Rhwydwaith hefyd yn parhau i dyfu, ar ôl croesawu’r Cyngor Gwasanaethau Cyfryngau, rheoleiddiwr cyfryngau Slofacia, fel aelod newydd a’r Sefydliad Diogelwch Ar-lein i Deuluoedd fel Arsyllwr newydd.

Nodiadau i olygyddion:

Mae’r Rhwydwaith Rheoleiddwyr Diogelwch Ar-lein Byd-eang yn gydweithrediad rhwng yr ysgogwyr cyntaf ym maes rheoleiddio diogelwch ar-lein. Mae’r Rhwydwaith yn paratoi’r ffordd ar gyfer dull rhyngwladol cydlynol o reoleiddio diogelwch ar-lein, drwy alluogi rheoleiddwyr diogelwch ar-lein i rannu gwybodaeth, profiadau ac arferion gorau.

Dyma aelodau presennol y Rhwydwaith:

Mae gan aelodau yr un ymrwymiad i weithredu’n annibynnol ar ddylanwad masnachol a gwleidyddol ac i lynu wrth feini prawf gwrthrychol ar gyfer parch at hawliau dynol, democratiaeth a’r rheol gyfreithiol. Mae’r Rhwydwaith hefyd yn agored i arsyllwyr – yn benodol, sefydliadau sydd ag arbenigedd a diddordeb mewn rheoleiddio diogelwch ar-lein ac sy’n dymuno dilyn ac ymgysylltu â’r Rhwydwaith.

Dyma’r arsyllwyr presennol:

I gael rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith Rheoleiddwyr Diogelwch Ar-lein Byd-eang, cysylltwch â’r Cadeirydd presennol, Ofcom yn ofcom.international@ofcom.org.uk.

Yn ôl i'r brig