Gwaith rhyngwladol

Gwaith rhyngwladol Ofcom

Mae’r sectorau mae Ofcom yn eu rheoleiddio yn fyd-eang eu natur, felly mae ymgysylltu rhyngwladol yn rhan bwysig o sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb.

Ar draws ein sectorau, rydym yn wynebu tueddiadau a heriau tebyg o ran y farchnad a rheoleiddio i lawer o’r sefydliadau cyfatebol yn Ewrop a thu hwnt, yn enwedig o ran rheoleiddio llwyfannau digidol.

Beth rydym yn ei wneud

Rydym yn rhyngweithio â’n rheoleiddwyr cyfatebol, diwydiannau, a’r byd academaidd ledled y byd. Pan fyddwn yn gwneud hynny, rydym yn cyfnewid safbwyntiau ar bynciau fel diogelwch ar-lein, cadernid rhwydweithiau a marchnadoedd digidol – ochr yn ochr â’n rhaglen waith ehangach sy’n adlewyrchu’r sectorau mae Ofcom yn eu rheoleiddio.

Rydym yn defnyddio ymgysylltiad rhyngwladol i lywio sut rydym yn dylunio ac yn defnyddio rheoliadau yn y DU, ac i gefnogi ein gwaith sganio’r gorwel. Rydym hefyd yn rhannu ein harbenigedd â phartneriaid rhyngwladol, ac yn ceisio dylanwadu ar ddatblygiadau rheoleiddiol yn y sectorau sy’n bwysig i ni.

Mae Ofcom hefyd yn cynrychioli'r DU ar faterion sy'n ymwneud â sbectrwm radio mewn grwpiau rhyngwladol pwysig, ac yn cymryd rhan mewn fforymau rhyngwladol ar faterion sy'n ymwneud â thelegyfathrebiadau a darlledu.

Fforwm Rhanddeiliaid Rhyngwladol

Rydym yn cynnal Fforwm Rhanddeiliaid Rhyngwladol (ISF) bob pedwar mis. Dyma’r brif ffordd rydym yn diweddaru rhanddeiliaid yn y DU ynghylch ein gweithgareddau rhyngwladol. Rydym hefyd yn defnyddio’r fforwm fel cyfle i rannu gwybodaeth, yn ogystal ag argraffiadau, ar ddatblygiadau polisi ar lefel ryngwladol.

Os hoffech chi gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio ar gyfer y Fforwm Rhanddeiliaid Rhyngwladol, cysylltwch â ni (gweler isod).

Cysylltu â’r Tîm Rhyngwladol  

Os hoffech chi gael gwybod mwy am ein gwaith rhyngwladol, neu os oes gan eich sefydliad ddiddordeb mewn ymweld ag Ofcom, cysylltwch â'r tîm yn ofcom.international@ofcom.org.uk

Rheoleiddwyr diogelwch ar-lein ar draws y byd yn mapio gweledigaeth i wella cydgysylltu rhyngwladol

Cyhoeddwyd: 24 Mai 2024

Online safety regulators from around the world have today outlined their vision for how international regulatory approaches to online safety can be more coherent and coordinated.

Global Online Safety Regulators Network

Cyhoeddwyd: 14 Mawrth 2024

Diweddarwyd diwethaf: 14 Mawrth 2024

Ofcom has joined forces with international regulators to enhance global efforts to make the online world a safer place.

Our international online safety work

Cyhoeddwyd: 9 Tachwedd 2023

The online world is global in nature. Ofcom works with our international partners to ensure the online safety of people in the UK. Find out what we do and why.

Our international work on telecoms and digital markets

Cyhoeddwyd: 9 Tachwedd 2023

Ofcom works with networks and partners around the world to coordinate our regulation of telecoms and digital markets. We also represent the UK on some of these matters internationally.

Our international broadcasting and content work

Cyhoeddwyd: 9 Tachwedd 2023

We partner with regulators and other organisations around the world to share and inform Ofcom’s strong reputation for evidence-based enforcement and policy making.

Rheoleiddwyr rhyngwladol yn dod at ei gilydd i drafod diogelwch ar-lein ar raddfa fyd-eang

Cyhoeddwyd: 13 Medi 2023

Diweddarwyd diwethaf: 13 Medi 2023

Yr wythnos hon, cynhaliodd Ofcom y cyfarfod blynyddol cyntaf o’r Rhwydwaith Rheoleiddwyr Diogelwch Ar-lein Byd-eang (GOSRN), sy’n dod â rheoleiddwyr o Ewrop, Asia, Affrica a’r Pasiffig at ei gilydd i drafod atebion i heriau diogelwch ar-lein byd-eang.

Ofcom at CEPT (European Conference of Postal and Telecommunications Administrations) and at ECC (Electronic Communications Committee)

Cyhoeddwyd: 14 Mehefin 2023

Ofcom is directed by Government to represent the UK at the CEPT Assembly, the ECC, the Com-ITU and subordinate groups for matters which are not related to post, and on the Council of the ERO

British Overseas Territories

Cyhoeddwyd: 14 Medi 2016

Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

A Memorandum of Understanding between Ofcom and the UK Government was signed on 15 October 2007 to cover working arrangements for the British Overseas Territories (OTs) and Crown Dependencies (CDs)

Ofcom at the International Telecommunication Union (ITU)

Cyhoeddwyd: 30 Ionawr 2020

Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Ofcom represents the UK Government in the ITU and is known as the UK Administration. The ITU, based in Geneva, is an international organisation within the United Nations.

Post (international work)

Cyhoeddwyd: 27 Mai 2022

Our international activities to monitor and regulate the postal market.

Yn ôl i'r brig