Melanie at the Women in Cyber event

Pam mae angen mwy o fenywod mewn seiber-ddiogelwch

Cyhoeddwyd: 27 Hydref 2022
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Araith a draethwyd gan Brif Weithredwr Ofcom, y Fonesig Melanie Dawes, yn ein digwyddiad Menywod mewn Seiber yn Neuadd y Sir, Llundain, ddydd Mercher 26 Hydref 2022.

[Gwirio yn erbyn cyflwyno]

Bu'r neuadd enwog hon yn gartref i Gyngor Sir Llundain ar un adeg. Ac yn ei etholiad cyntaf yn 1889, bu i ddwy fenyw - yr Arglwyddes Margaret Sandhurst a Jane Cobden - fanteisio ar fwlch yn y geiriad, sefyll mewn etholiad a mynd yn gynghorwyr.

Ond gwnaeth heriau cyfreithiol eu hatal rhag cymryd eu seddi. Byddai eu cefnogwyr yn ffurfio'r Gymdeithas Llywodraeth Leol i Fenywod, ac arweiniodd eu hymgyrchu at Ddeddf Cymhwyster Menywod 1907.

Roedd menywod a gymerodd seddi Cyngor ar ôl hynny wedi helpu i sicrhau newidiadau pwysig fel strydoedd, parciau a thai cyngor gwell, yn ogystal ag arloesi gwaith ar addysg a lles.

Felly mae'n teimlo'n briodol ein bod ni yn yr ystafelloedd lle'r oedd y menywod hyn yn gweithio i fynd i'r afael â materion eu hoes. Rydyn ni yma i siarad am sut rydyn ni'n hyrwyddo a datblygu menywod i fynd i'r afael â heriaueinhoes - un ohonynt i mi, yw seiber-ddiogelwch.

Hoffwn siarad â chi am y gwaith mae Ofcom yn ei wneud i sicrhau bod ein rhwydweithiau'n gydnerth. A pham bod angen y bobl a'r sgiliau cywir arnom - pobl fel chi – i'n helpu i sicrhau bod rhwydweithiau'r DU yn gadarn ac yn ddiogel.

Rôl Ofcom

Fel y bydd llawer ohonoch yn gwybod, daeth y Ddeddf Diogelwch Telegyfathrebiadau i rym y llynedd, gan roi pwerau a dyletswyddau newydd i Ofcom oruchwylio diogelwch telegyfathrebiadau.

Daeth ein dyletswyddau newydd i rym ddechrau'r mis hwn. Mae hyn yn golygu ein bod ni'n gyfrifol am sicrhau bod darparwyr gwasanaethau telathrebu'n cydymffurfio â rheolau newydd sy'n rhoi hwb i ddiogelwch a chydnerthedd ein rhwydweithiau cyfathrebu yn erbyn ymosodiadau seiber.

Mae hyn yn bwysig oherwydd wrth i werth dynol rhwydweithiau – a'r gwasanaethau sy'n dibynnu arnynt – gynyddu, maent yn darged gynyddol ddeniadol i ymosodwyr. Felly wrth i dechnoleg esblygu, mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein rhwydweithiau'n parhau'n ddiogel, ac atal aflonyddwch a allai hefyd effeithio ar sectorau eraill.

Mae digwyddiadau diweddar yn atgyfnerthu'r angen hwnnw. Mae cyflenwyr mawr fel SolarWinds a Syniverse wedi cael eu cyfaddawdu. Mae gwendidau meddalwedd newydd, megis log4j, yn dod i'r amlwg. Rydym wedi gweld hawliadau meddalwedd gwystlo, ac ymosodiadau wedi'u targedu a noddir gan wladwriaethau gelyniaethus.

Mae cwmnïau'n buddsoddi mewn cysylltiadau mwy diogel a chydnerth sy'n gallu gwrthsefyll ystod o fygythiadau sy'n newid.

Ein gwaith ni nawr yw goruchwylio hyn a sicrhau bod darparwyr wedi rhoi mesurau priodol ar waith. Byddwn yn gweithio gyda nhw i sicrhau eu bod yn gwella eu diogelwch, ac yn monitro eu cydymffurfiaeth yn erbyn y fframwaith diogelwch newydd.

Wrth i werth ein rhwydweithiau telathrebu gynyddu, maent yn mynd yn darged mwy deniadol i ymosodwyr. Mae'n rhaid i'n rhwydweithiau a'n gwasanaethau barhau i fod yn ddiogel mewn byd lle mae technolegau'n datblygu'n gyflym. Wrth i ni symud tuag at ddyfodol 5G a Gigabit, nawr yw'r amser i wneud y buddsoddiadau hyn fel bod rhwydweithiau newydd yn cael eu dylunio gyda diogelwch mewn golwg, yn hytrach na'i fod yn gorfod cael ei ôl-osod ynddynt. Os ydyn ni'n cael hyn yn iawn, bydd pawb ar eu hennill.

Mae seiber-ddiogelwch yn daith barhaus. Wrth i natur y bygythiadau sy'n ein hwynebu barhau i esblygu, felly y bydd angen i'n diwydiant barhau'n effro i'r risgiau hynny a gwarchod yn eu herbyn.

Mae'n gyfnod prysur i ni yn Ofcom. Rydym yn parhau â'n gwaith gyda sectorau teledu, radio, telathrebu a phost y DU i sicrhau eu bod yn gwneud y gorau i bob un ohonom.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym hefyd wedi dechrau rheoleiddio gwefannau ac apiau fideo fel TikTok a Snapchat. Ac rydym yn paratoi i oruchwylio'r cyfryngau cymdeithasol a pheiriannau chwilio o dan y Mesur Diogelwch Ar-lein, gyda'r dasg o sicrhau eu bod yn gwneud gwell gwaith o gadw eu defnyddwyr yn ddiogel.

Mae llawer i'w wneud wrth i'n sectorau barhau i gydgyfeirio, mae'r ffiniau'n aneglur rhwng traddodiadol a digidol. I'r rhan fwyaf ohonon ni, dyna'r ffordd yr ydyn ni'n byw ein bywydau – ac mae'r gwaith rydyn ni'n ei wneud wrth wraidd y peth.

Gyda'n dyletswyddau newydd bellach ar waith, rydym yn parhau i feithrin ein gallu a'n sgiliau yn y maes hwn. Rydym wrthi'n recriwtio mwy o arbenigwyr i ymuno â'n tîm yn Llundain a'n hyb technoleg newydd ym Manceinion, i'n helpu i gyflawni'r rôl hollbwysig hon.

Mae angen y sgiliau cywir ar gyfer y gwaith hanfodol hwn sy'n sail i sut mae pobl yn byw, yn dysgu ac yn gweithio yn y DU heddiw.

Y broblem amrywiaeth

Yn Ofcom, gwelwn achos busnes clir dros ymwreiddio amrywiaeth y rhywiau ar draws ein sefydliad a hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae ein penderfyniadau'n effeithio ar holl aelodau o'r cyhoedd yn y DU.

Nid yw amrywiaeth a chynhwysiad yn bethau 'braf eu cael’. Mae hyn yn rhan hanfodol o wneud busnes. Ac fel rheoleiddiwr, mae dyletswydd arnom i arwain y sectorau yr ydym yn eu rheoleiddio.

Ond rydyn ni'n deall o brofiad nad yw adeiladu gweithlu amrywiol bob amser yn hawdd - yn enwedig mewn meysydd technolegol fel seiber.

Menywod sy'n ffurfio 51% o'r boblogaeth; ond 36% yn unig o'r gweithlu seiber-ddiogelwch yn y DU.

Does dim angen i chi fod yn fathemategydd medrus – ac mae llawer yn yr ystafell hon – i wybod beth mae hyn yn ei olygu. Does dim digon o fenywod yn cael y cyfleoedd na'r cymhellion cywir i ddatblygu gyrfa yn y sector hwn ac i roi benthyg eu doniau iddo.

Nid yw hyn yn ymwneud â cheisio llogi mwy o fenywod dim ond i daro cwota mewn adroddiad blynyddol. Yn y bôn rwy'n credu y daw gwaith rhagorol o weithlu amrywiol.

Ac mae'r data'n cefnogi hyn.

Yn 2019, canfu McKinsey fod cwmnïau sydd â mwy o fenywod yn swyddogion gweithredol yn perfformio'n well yn gyson na'u cystadleuwyr. Po fwyaf yw'r gynrychiolaeth, yr uchaf yw'r tebygolrwydd o berfformio'n well.

Nid yw hyn yn ymwneud â cheisio llogi mwy o fenywod dim ond i daro cwota mewn adroddiad blynyddol. Yn y bôn rwy'n credu y daw gwaith rhagorol o weithlu amrywiol.

Yn ôl Forbes, mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau busnes gwell. Dangosodd yr un ymchwil fod cwmnïau sydd â chyfran uwch o fenywod ar eu byrddau yn tueddu i fuddsoddi mwy mewn arloesedd a bod yn fwy arloesol eu hunain.

Ond yn draddodiadol, mae'r proffesiwn seiber-ddiogelwch yn broffesiwn gwrywaidd iawn, gydag nifer anghymesur o ddynion fel uwch arweinwyr.

Os na all diwydiant hanfodol fel seiber-ddiogelwch alw ar y doniau ehangaf, bydd yn llai effeithiol wrth daclo'r risgiau a wynebwn. Ac mae hynny'n ein rhoi nii gydmewn perygl. Oherwydd bod ein cymdeithas yn wynebu amrywiaeth o fygythiadau seiber sy'n ehangu'n barhaus.

Mae'r bygythiadau hyn yn dod o bob cwr o'r byd. O bobl, sefydliadau a hyd yn oed gwledydd. Mae ganddynt gefndiroedd a phrofiadau enfawr ac amrywiol.

Felly mae'n gwneud synnwyr bod y bobl sy'n darogan yr ymosodiadau hyn, ac yn cynllunio ein hymatebion, yn dod â safbwyntiau, syniadau a phrofiadau gwahanol i'r bwrdd.

Rwy'n falch iawn o weld y farn hon yn mynd yn norm yn y byd technoleg.

Wrth siarad â'r BBC yn ystod ei ymweliad cyntaf â'r DU ers cyn y pandemig, dywedodd Prif Weithredwr Apple Tim Cook yn ddiweddar:

“Rwy'n credu bod hanfod technoleg a'i effaith ar ddynoliaeth yn dibynnu ar gael menywod wrth y bwrdd. Mae technoleg yn beth gwych a fydd yn cyflawni llawer o bethau, ond os nad oes gennych chi farn amrywiol wrth y bwrdd sy'n gweithio arno, dydych chi ddim yn dod o hyd i atebion gwych.”

Dyna datganiad pwerus.

Ond dwi'n meddwl y gallwn ni fynd ymhellach.

Oes, mae angen menywod wrth y bwrdd. Ond yr hyn sydd wir ei angen arnom ywystod amrywiol o fenywod. Gadewch i ni weithio ar y cyd i ddod â'n hystod helaeth o brofiadau i'r problemau sy'n ein hwynebu.

Mae Apple wedi dysgu, o gamgymeriadau'r gorffennol, bod hyn yn hanfodol. Yn ddrwgenwog, lansiodd y cwmni ei ap gofal iechyd heb draciwr mislif, gan arwain at feirniadaeth o'i dîm datblygu a ddominyddwyd gan ddynion.

Yn ystod yr un cyfweliad, dywedodd Tim Cook hefyd bod"dim esgusodion da" i'r sector dechnoleg dros beidio â chyflogi mwy o fenywod.

Mae angen i ni hefyd symud i ffwrdd o'r syniad 'ma bod seiber-ddiogelwch yn ymwneud â sgiliau technegol yn unig. Sgiliau sydd, yn ystrydebol, yn cael eu hystyried yn rhai mwy gwrywaidd. Mae hyn yn gwneud anghymwynas i sector cymhleth ac amrywiol. Wrth ei wraidd, mae seiber-ddiogelwch yn ymwneud â diogelu pobl. Mae angen creadigrwydd, arloesi, hyblygrwydd, cyfathrebu da a datrys problemau.

Sut i wneud cynnydd

Felly sut mae sicrhau bod mwy o fenywod yn yr ystafell, mewn seiber-ddiogelwch, ac mewn technoleg yn ehangach?

Wel dyma rywbeth rydyn ni'n gweithio'n galed arno yn Ofcom.

A dwi'n teimlo mor falch bod ein diwylliant ni yn un lle mae menywod nid yn unig yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ond hefyd yn gwybod eu bod yn hanfodol i'n llwyddiant ni.

Rydym wedi gosod nodau gweithlu uchelgeisiol er mwyn cynyddu amrywiaeth ein gweithlu. Mae gennym gyrchnodau blynyddol i'n cadw ni ar y trywydd iawn.

Mae cynrychiolaeth ar lefel uwch yn bwysig. Mae angen modelau rôl ar fenywod ifainc, ac mae angen i ni weld menywod yn cyrraedd y lefelau hynny. Felly rwy'n falch iawn bod 45% o'n rolau uwch bellach wedi'u llenwi gan fenywod - ac rydym am fynd ymhellach.

Am dair blynedd yn olynol rydym wedi cael ein cydnabod fel un o'r 50 Cyflogwr Uchaf i Fenywod The Times am yrru cydraddoldeb rhwng y rhywiau, diwylliant cynhwysol a chefnogi pob menyw yn y gwaith.

Mae gennym bolisïau pobl wych sy'n cefnogi menywod wrth iddynt ddatblygu eu gyrfaoedd: pethau fel tâl mamolaeth gwell, gweithio hyblyg a rhaglen ddychwelyd i fenywod sy'n dod yn ôl i'r gwaith yn dilyn seibiant.

Gallwn fynd ymhellach o hyd wrth wneud recriwtio a dilyniant gyrfaol yn deg, a rhoi cyfle i bawb waeth beth fo'u cefndir. Rydyn ni'n gweithio'n galed ar hyn.

I gloi

Felly i grynhoi, mae angen gweithlu arnom sy'n galw ar wahanol rhannau o gymdeithas ac o'r wlad.

Mae'n hanfodol bod y proffesiwn seiber-ddiogelwch yn gwneud yr un peth.

Dyma gyfle i helpu i ymdrin ag un o brif heriau byd-eang yr 21ain ganrif. A'r hyn sy'n wych i'w weld yw'r ymrwymiad yma i wneud i hynny ddigwydd.

Wrth i ni wrando ar y siaradwyr y prynhawn 'ma, gadewch i ni feddwl am y menywod yn yr ystafelloedd hyn a ddaeth o'n blaenau. Eu hymrwymiad i newid er gwell, ond hefyd eu hymrwymiad i ddod â menywod eraill ar y daith gyda nhw. Mae ein lleisiau cyfunol ac amrywiol yn dod â'r fath bŵer.

Gobeithiaf y byddwch chi'n mwynhau'r prynhawn yma.

Diolch.

Yn ôl i'r brig