Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Ofcom wedi cael ei gydnabod fel un o 50 o gyflogwyr gorau i fenywod ar gyfer 2020 yn rhestr ‘Business in the Community’ papur dyddiol The Times.
Mae'r rhestr 50 uchaf bellach yn ei degfed flwyddyn, a hon yw'r wobr fwyaf hirhoedlog i gyflogwyr sydd wedi ymrwymo i sicrhau cydraddoldeb i fenywod yn y gwaith.
Bob blwyddyn, gall cwmnïau sydd â phresenoldeb yn y DU wneud cais am le ar y rhestr, drwy fanylu ar sut y maent yn gweithio tuag at gydraddoldeb rhwng y rhywiau. Caiff cyflogwyr sy'n cael eu cynnwys ar y rhestr eu dewis gan arbenigwyr cydraddoldeb rhywedd yn ‘Business in the Community’.
Caiff cyflogwyr eu hasesu ar sail tryloywder, yr achosion y tu ôl i'r bylchau rhwng y rhywiau, yr hyn y maent yn ei wneud i fynd i'r afael â'r materion strwythurol hyn ac effaith eu gweithredoedd.
Mae'r gwerthusiad hefyd yn edrych ar y rôl a chwaraeir gan uwch arweinwyr, camau i gynyddu cynrychiolaeth menywod mewn swyddi uwch, rhyng-sectorol, cefnogi rhieni a gofalwyr, rhoi'r gorau i fwlio ac aflonyddu a'r hyn y maent yn ei wneud i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol y tu allan i'w sefydliad.
Yma, mae rhai o'n cydweithwyr benywaidd yn sôn am eu balchder wrth i Ofcom gael ei gynnwys ar y rhestr, yn ogystal â rhai o'r camau rydym wedi'u cymryd i’w wneud yn lle gwych i fenywod weithio.
Mae'r fideo isod ar gael yn Saesneg yn unig.