Three women working happily at a table together with laptops

Ofcom wedi'i enwi'n un o'r cyflogwyr gorau i fenywod

Cyhoeddwyd: 23 Mai 2000
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Mae Ofcom wedi cael ei gydnabod gan Busnes yn y Gymuned fel un o'r cyflogwyr gorau i fenywod unwaith eto.

Mae rhestr 50 uchaf flynyddol The Times, a lunnir gan banel o arbenigwyr cydraddoldeb rhyw, yn dathlu cyflogwyr yn y DU sydd wedi blaenoriaethu cydraddoldeb rhyw yn y gweithle. Dyma'r seithfed tro i Ofcom ymddangos ar y rhestr fawreddog hon ac mae'n rhywbeth rydym yn hynod falch ohono.

Ond ni fyddai modd i ni gyflawni hyn heb ymroddiad ein cydweithwyr, gan gynnwys ein rhwydweithiau cydweithwyr, sy'n sicrhau bod pobl amrywiol Ofcom yn cael eu cynrychioli ar bob lefel ac yn helpu'r sefydliad i wneud penderfyniadau o safbwynt croestoriadol, gan weithredu er budd pawb.

Mae Rhwydwaith Menywod Ofcom yn sicrhau bod gan fenywod lais a'i nod yw diwallu anghenion pob menyw yn Ofcom, p'un a ydynt yn drawsrywiol, yn cisrhyw, yn anneuaidd neu'n rhywgwiar. Mae hefyd yn helpu i ddarparu lle diogel i drafod materion sy'n effeithio ar fenywod a phobl nad ydynt yn cydymffurfio â'r rhywiau sy'n gweithio yma.

Mae rhwydwaith arall a arweinir gan gydweithwyr, y Rhwydwaith Rhieni a Gofalwyr, yn cefnogi cydweithwyr â gofal plant neu unrhyw fath arall o gyfrifoldebau gofalu, i helpu i sicrhau y gall pawb gael gyrfaoedd llwyddiannus a boddhaus yn Ofcom.

Beth mae cyflawni cydraddoldeb rhyw yn ei olygu yn Ofcom?

Mae'n golygu bod cydweithwyr o bob rhyw yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn eu lles a'u datblygiad gyrfaol a'u bod yn teimlo eu bod wedi'u grymuso i gyflawni eu potensial llawn.

Mae hefyd yn golygu ysbrydoli pob cydweithiwr i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol yn Ofcom, ac i herio ymddygiadau sy'n groes i'r nod hwn.

Sut ydyn ni wedi bod yn gweithio tuag at hyn?

O bolisïau sy'n ystyriol o deuluoedd gan gynnwys absenoldeb rhiant hael a chymorth triniaeth ffrwythlondeb, i gynhyrchion misglwyf am ddim yn ein toiledau swyddfa, gweithio hyblyg i bawb, a chymorth i'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu, mae cydraddoldeb rhywiol yn cael ei bobi i'n polisïau a'n buddion cydweithwyr.

Rydym hefyd yn mynd ati i annog cydweithwyr Ofcom i fanteisio ar y cyfleoedd datblygu gyrfaol helaeth, cyrsiau arweinyddiaeth i fenywod a'r mentora sydd ar gael.

Rydym wrth ein boddau â chyrraedd rhestr 50 uchaf The Times. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn dyst i waith eithriadol pobl ar draws y sefydliad. Hoffwn ddiolch i'n holl gydweithwyr am eu hymrwymiad i wneud Ofcom yn lle gwych i fenywod weithio – gan gynnwys ein rhwydweithiau cydweithwyr, sy'n chwarae rhan hanfodol yn hyn o beth.

Kerri-Ann O’Neill, Cyfarwyddwr Pobl a Thrawsnewid Ofcom

 diddordeb mewn ymuno ag Ofcom? Edrychwch ar ein swyddi gwag presennol ledled y DU mewn meysydd gan gynnwys technoleg, economeg, ymchwil a mwy.

Yn ôl i'r brig