Amrywiaeth a chynhwysiad yn Ofcom

Cyhoeddwyd: 10 Medi 2010

Mae Ofcom yn benderfynol o wneud popeth y gallwn i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth y tu mewn i'n sefydliad ac yn y sectorau ehangach rydym yn eu rheoleiddio.

Ein cenhadaeth yw 'sicrhau bod cyfathrebiadau'n gweithio i bawb'. Er mwyn i ni lwyddo yn ein gwaith, mae'n rhaid i'n sefydliad adlewyrchu'r amrywiaeth o ran cefndir, profiad, magwraeth a meddylfryd sy'n bodoli ar draws y DU.

Cyhoeddwyd ein strategaeth amrywiaeth a chynhwysiad ym mis Ionawr 2021. Mae'n nodi ein strategaeth pum mlynedd ar gyfer gwneud Ofcom yn sefydliad mwy amrywiol a mwy cynhwysol. Rydym wedi'n sbarduno gan yr egwyddorion a'r ymrwymiadau a ddisgrifir yn y strategaeth hon.

Rydym yn monitro ein polisïau a'n harferion yn gynhwysfawr trwy ddadansoddi data ac adrodd mewnol, arolygon gweithwyr, ymgynghori â rhwydweithiau cydweithwyr, meincnodi allanol ac archwiliad tâl cyfartal rheolaidd ac adrodd am fylchau cyflog.

Mae ein hadroddiadau amrywiaeth a chydraddoldeb diweddaraf ar gael isod.

Diweddariad ar gynnydd yn 2022/23 (a'r rhaglen waith ar gyfer 2023/24)

Dyma ein hail adroddiad cynnydd ers cyhoeddi ein strategaeth amrywiaeth a chynhwysiad ar gyfer 2021-26. Mae'n cynnwys ein data ar ethnigrwydd ac anabledd a'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer 2022/23.

Sicrhau bod Ofcom yn gweithio i bawb: Diweddariad cynnydd ar strategaeth amrywiaeth a chynhwysiad Ofcom 2022/23 (PDF, 2.5 MB)
Cyhoeddwyd 2 Awst 2023

Yn ôl i'r brig