Chwythu’r Chwiban: Gwneud datgeliad gwarchodedig i Ofcom

Cyhoeddwyd: 1 Mawrth 2024
Diweddarwyd diwethaf: 27 Medi 2024

Os ydych chi’n gweithio mewn sector rydym yn ei reoleiddio, gallwch adrodd pryder i Ofcom fel chwythwr chwiban o dan Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998.

Mae chwythwr chwiban yn golygu unigolyn sy’n poeni am fathau penodol o ddrwgweithredu, risg neu gamarfer a gyflawnir gan ei gyflogwr, ac sy’n ceisio datgelu gwybodaeth am ei bryderon er budd y cyhoedd. Gallwch chwythu’r chwiban yn eich gweithle eich hun, neu i sefydliad allanol megis rheoleiddiwr.

Pryd y dylid cysylltu â ni

Ofcom yw’r rheoleiddiwr annibynnol, yr awdurdod ar gyfer cystadleuaeth a’r gorfodwr dynodedig ar ran cyfraith defnyddwyr ar gyfer sector cyfathrebiadau’r DU. Mae hyn yn cynnwys darlledu (gwasanaethau teledu, radio ac ar-alw), telathrebu (gwasanaethau band eang, symudol, llais a rhyngrwyd), gwasanaethau post, y sbectrwm radio, llwyfannau rhannu fideos a gwasanaethau ar-lein eraill.

Gallwch gysylltu â ni gyda datgeliad chwythu’r chwiban os:

  • ydych yn unigolyn sy’n gweithio mewn sector y mae Ofcom yn ei reoleiddio, ac mae gennych bryderon ynghylch drwgweithredu posibl yn eich sefydliad eich hun; ac
  • os ydych wedi ceisio codi’r materion yn fewnol yn eich sefydliad yn aflwyddiannus, neu os ydych chi’n poeni am godi’r math hwn o fater yn eich sefydliad eich hun.

Ni ddylech gysylltu â ni gyda datgeliad os:

  • ydych chi’n teimlo y gallwch godi’r mater o fewn cynllun chwythu’r chwiban eich sefydliad – rydym yn argymell codi materion yn fewnol yn gyntaf os yw’n rhesymol gwneud hynny;
  • yw'r mater yn ymwneud â'ch sefyllfa cyflogaeth bersonol yn unig, megis tâl, hawliau gwyliau neu gyfleoedd dyrchafiad. Yn y sefyllfa hon, os nad ydych yn teimlo eich bod yn gallu codi’r mater yn uniongyrchol gyda’ch rheolwr/goruchwyliwr, efallai yr hoffech chi godi eich pryderon drwy broses chwythu’r chwiban fewnol eich cyflogwr neu ofyn am gyngor allanol am ddiogelu cyflogaeth (ACAS, Cyngor ar Bopeth neu eich undeb llafur); neu
  • ydych chi’n un o weithwyr Ofcom, gan fod gan Ofcom ei broses fewnol ei hun ar gyfer chwythwyr chwiban.

Ni allwn addo gweithredu, ond byddwn bob amser yn asesu’n ofalus yr hyn a ddywedwch wrthym i benderfynu a oes angen ymchwiliad pellach. Felly, cyn i chi gysylltu â ni, dylech ystyried:

Beth mae angen i ni ei wybod

Cyn belled ag y gallwch chi, esboniwch yn union beth sy’n digwydd a pham rydych chi’n credu ei bod er budd y cyhoedd i ddatgelu’r wybodaeth i Ofcom. Byddai’n ddefnyddiol gwybod:

  • eich enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn, er mwyn i ni allu cysylltu â chi (er y gallwch roi gwybod yn ddienw os yw’n well gennych);
  • pwy yw’r sefydliad(au) a/neu’r unigolyn/unigolion dan sylw;
  • beth sy’n digwydd sydd wedi codi eich pryder;
  • ers pryd mae hyn wedi bod yn digwydd, hyd y gwyddoch chi;
  • sut gallai’r ymddygiad effeithio ar ddefnyddwyr ac ar ddinasyddion;
  • a ydych wedi ceisio codi eich pryderon yn fewnol ac, os felly, beth ddigwyddodd;
  • unrhyw dystiolaeth neu ddogfennau ategol sydd gennych; ac
  • unrhyw fuddiannau personol a allai fod gennych mewn perthynas â’r datgeliad.

Peidiwch â cheisio casglu tystiolaeth neu wybodaeth ychwanegol – dywedwch wrthym beth rydych chi eisoes yn ei wybod.

Sut mae cysylltu â ni

Cysylltwch â ni'n gyntaf drwy gwblhau ein ffurflen ar-lein. Dim ond os ydych chi'n chwythu'r chwiban fel cyflogai y dylech ddefnyddio'r ffurflen hon.

Byddwn yn cymryd pob cam ymarferol i gelu pwy ydych chi oddi wrth eich cyflogwr. Os ydych chi am wneud hynny, gallwch ddewis aros yn ddienw. Byddwn yn dal i asesu eich gwybodaeth yn ofalus, ond gall fod yn anoddach i ni fynd ar drywydd y mater os na allwn gysylltu â chi i gael eglurhad neu ragor o wybodaeth.

Os ydych eisiau gwneud cwyn i ni am eich gwasanaethau ffôn, band eang neu bost, rhywbeth rydych wedi'i weld neu ei glywed ar raglen deledu, radio neu ar-alw, ymyriant i ddyfais ddi-wifr, neu rywbeth rydych chi wedi'i weld ar lwyfan rhannu fideos, gallwch wneud cwyn i ni ar-lein.

Gallwch hefyd gysylltu â ni dros y ffôn neu drwy’r post.

Beth sy’n digwydd nesaf

Byddwn yn neilltuo swyddog achos i adolygu’r wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi. Bydd yn gwneud asesiad cychwynnol ynghylch a ddylai Ofcom ymchwilio ymhellach ai beidio, yn unol â’n Canllawiau Gorfodi. Os ydych chi wedi rhoi eich manylion cyswllt, efallai y bydd yn cysylltu â chi i gael gwybod mwy am yr honiadau.

Mae nifer o ganlyniadau posibl. Gallwn:

  • geisio casglu rhagor o wybodaeth cyn dod i benderfyniad ynghylch a ddylid ymchwilio ai beidio. Gall hyn olygu cysylltu â’r sefydliad sy’n destun yr honiadau. Ni fyddem yn datgelu eich enw na’ch manylion cyswllt heb eich caniatâd.
  • penderfynu agor ymchwiliad. Byddem yn dilyn y gweithdrefnau arferol a nodir yn ein Canllawiau Gorfodi, sy’n cynnwys cyhoeddi hysbysiad agoriadol ar ein gwefan.
  • ymdrin â’r honiadau heb agor ymchwiliad ffurfiol. Gall hyn olygu ysgrifennu at y sefydliad neu’r unigolyn i’w atgoffa o unrhyw ofynion rheoleiddio perthnasol.
  • trosglwyddo eich gwybodaeth i reoleiddiwr mwy priodol, er enghraifft os yw’r ymddygiad yn ymwneud â sector nad yw Ofcom yn ei reoleiddio.
  • penderfynu peidio ag ymchwilio ymhellach. Nid yw’r gyfraith yn mynnu ein bod yn ymchwilio i bob datgeliad a ddaw i law. Wrth benderfynu a ddylid ymchwilio ai beidio, rydym yn ystyried pa mor dda rydym yn defnyddio’r adnoddau sydd ar gael i warchod budd y cyhoedd.

Os byddwch yn rhoi eich manylion cyswllt, byddwn fel arfer yn dweud wrthych beth rydym wedi penderfynu ei wneud gyda’ch gwybodaeth.

Gwarchodaeth i chwythwyr chwiban

Efallai y bydd gennych gwestiynau neu bryderon ynghylch pa warchodaeth a gynigir i chwythwyr chwiban. Ni allwn gynnig cyngor cyfreithiol, ond mae ffynonellau eraill o gymorth, fel:

Mae chwythwyr chwiban yn cael eu gwarchod o dan y Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd (PIDA). Mae hyn yn gallu rhoi iawn os byddwch yn cael eich brifo, yn dioddef niwed neu’n cael eich diswyddo oherwydd eich bod wedi chwythu’r chwiban er budd y cyhoedd. Gellir gorfodi hyn drwy Dribiwnlys Cyflogaeth.

Mae gan Ofcom rôl arbennig fel ‘person rhagnodedig’ o dan y Ddeddf, sy’n golygu y gallai datgelu gwybodaeth i ni olygu eich bod yn gymwys i gael yr un hawliau cyflogaeth â phetaech wedi cyflwyno adroddiad yn uniongyrchol i’ch cyflogwr. Mae meini prawf penodol y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i’r warchodaeth fod yn berthnasol, gan gynnwys credu’n rhesymol bod yr wybodaeth a adroddir yn wir i raddau helaeth. Mae hyn wedi'i nodi yng nghanllawiau llywodraeth y DU.

Ni all Ofcom benderfynu a yw eich datgeliad yn gymwys i gael ei warchod nac ymyrryd mewn cysylltiadau cyflogaeth. Dylech ofyn am gyngor gan un o’r cyrff a nodir uchod os ydych yn bryderus.

Byddwn yn trin unrhyw wybodaeth a roddwch i ni mewn modd sensitif a chyfrifol. Byddwn yn cyfyngu ar bwy sy’n cael gwybod pwy ydych chi o fewn Ofcom i’r isafswm sy’n angenrheidiol i asesu ac i ymchwilio i’r mater. Os byddwn yn cyhoeddi unrhyw beth sy’n ymwneud ag achos chwythwr chwiban ni fyddem yn datgelu pwy yw’r chwythwr chwiban, ac ni fyddem yn datgelu’r wybodaeth honno oni bai fod rheidrwydd cyfreithiol arnom i wneud hynny, er enghraifft gan farnwr mewn llys barn. Ond hyd yn oed os gwnawn ein gorau glas i gelu pwy yw’r chwythwr chwiban, ni allwn warantu anhysbysrwydd, oherwydd ei bod hi’n bosibl i’r cyflogwr allu adnabod chwythwr chwiban yn annibynnol.

Ein hadroddiad chwythu’r chwiban blynyddol

Yn ein hadroddiad blynyddol ar chwythu’r chwiban, rydym yn ymdrin â’r datgeliadau a gawsom fel ‘Person Rhagnodedig’ bob blwyddyn.
.

Yn ôl i'r brig