Ofcom Wales logo

Ymrwymiad Ofcom i'n cynulleidfa Gymraeg ei hiaith

Cyhoeddwyd: 1 Mawrth 2023
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Heddiw yw Dydd Gŵyl Dewi, dygwyl nawddsant Cymru. I nodi'r achlysur, dyma gipolwg ar y gwaith a wnawn i sicrhau y gall siaradwyr Cymraeg ymwneud â gwaith Ofcom yn yr iaith o'u dewis, boed hynny'n Gymraeg neu Saesneg.

Fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau'r Deyrnas Unedig gyda swyddfa yng Nghymru, mae'n rhaid i ni gydymffurfio â deddfwriaeth y Gymraeg. Ers 25 Ionawr 2017, rydym wedi gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg ar weithredu ein safonau Cymraeg. Mae'r safonau hyn yn disgrifio sut rydym yn darparu ac yn hybu gwasanaethau yn y Gymraeg.

Ein hymagwedd

Rydyn ni'n trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal yn ein gwaith yng Nghymru. Wrth ddarparu gwasanaeth yn Gymraeg, ein nod yw sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. Wrth benderfynu pryd i ddarparu gwasanaeth yn Gymraeg, rydyn ni'n cymhwyso proses gwneud penderfyniadau gyson. Rydyn ni'n anelu at hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg mewn ffordd sy'n ei gwneud yn hawdd i bobl sydd eisiau cyfathrebu â ni yn Gymraeg wneud hynny'n rhwydd, ac ar yr un pryd cyfrannu'n gadarnhaol at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Os yw’r gwasanaeth dan sylw yn ymwneud â rhywbeth sy’n effeithio ar ddinasyddion a busnesau yng Nghymru, neu sy’n berthnasol iddynt, byddwn yn darparu gwasanaeth Cymraeg fel mater o drefn.

Rydyn ni'n credu bod ein hymagwedd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at allu siaradwyr Cymraeg i ymwneud â materion cyfathrebiadau yn yr iaith o'u dewis.

Mae ein hymdrechion diweddar yn y maes hwn yn cynnwys lansio ein podlediad Cymraeg cyntaf, cyfieithu dros 796,000 o eiriau i'r Gymraeg, cynhyrchu nifer o fideos Cymraeg, a chreu modiwl dysgu rhyngweithiol ar y Gymraeg ar gyfer staff.

Mwy o wybodaeth

I gael gwybod mwy am ein gwaith ar gyfer siaradwyr Cymraeg, bwrw golwg ar ein fideo:

Yn ôl i'r brig