Datganiad: Cynllun Blynyddol Arfaethedig 2018/19

Cyhoeddwyd: 1 Rhagfyr 2017
Ymgynghori yn cau: 9 Chwefror 2018
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Pwrpas Ofcom yw sicrhau bod y marchnadoedd cyfathrebiadau’n gweithio i bawb. I gyflawni hyn, mae gennym dri phrif nod: hyrwyddo cystadleuaeth a sicrhau bod marchnadoedd yn gweithio'n effeithiol i ddefnyddwyr; sicrhau safonau a gwella ansawdd; a diogelu defnyddwyr rhag niwed. Mae ein Cynllun Blynyddol yn disgrifio rhai o'r meysydd gwaith allweddol y byddwn yn ceisio'u cyflwyno er mwyn cyflawni'r nodau hyn, ar draws y DU ac yn y gwledydd. Rydym hefyd yn disgrifio ein gwaith parhaus ehangach sy'n cefnogi'r nodau hyn, a sut byddwn yn gweithio ar ran defnyddwyr ar draws gwledydd y DU.

Cafodd ein Cynllun Blynyddol Arfaethedig 2018/19 ei gyhoeddi gennym ar gyfer ymgynghori arno ar 1 Rhagfyr 2017. Ym mis Ionawr 2018 cynhalion ni ddigwyddiadau cyhoeddus ar gyfer rhanddeiliaid er mwyn cyflwyno a thrafod y Cynllun. Cafodd y digwyddiadau eu cynnal yng Nghaerdydd, Llundain, Belfast a Chaeredin. Cawsom 46 o ymatebion, sydd wedi’u crynhoi yn Atodiad 2. Mae’r Cynllun terfynol hwn wedi ystyried barn rhanddeiliaid ar y Cynllun arfaethedig, a’u hymatebion iddo.

Ymatebion

Manylion cyswllt

Cyfeiriad

Annual Plan Team, SITE
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA

Yn ôl i'r brig