Ymgynghoriad: Cynllun Gwaith arfaethedig Ofcom ar gyfer 2024/25

Cyhoeddwyd: 15 Rhagfyr 2023
Ymgynghori yn cau: 9 Chwefror 2024
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi ein Cynllun Gwaith arfaethedig ar gyfer 2024/25, sy'n amlinellu ein meysydd gwaith ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae ein cenhadaeth i sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb – ar draws gwasanaethau telathrebu, darlledu, post, sbectrwm ac ar-lein – yn bwysicach nag erioed.

Mae pasio'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein ym mis Hydref 2023, gan helpu i greu bywyd mwy diogel ar-lein, yn cynrychioli’r newid mwyaf i’n dyletswyddau yn hanes 20 mlynedd Ofcom.

Mae'r cynllun hwn yn amlinellu ein canlyniadau â blaenoriaeth, ac yn esbonio sut y byddwn yn gweithio i gyflawni'r rhain yn ystod 2024-25. Dyma nhw:

  • Rhyngrwyd y gallwn ddibynnu arno - cysylltiadau a gwasanaethau cyflym a dibynadwy i bawb, ym mhob man;
  • Cyfryngau rydyn ni'n ymddiried ynddynt ac yn eu gwerthfawrogi – amrywiaeth eang o gyfryngau o ansawdd uchel a diogelu i gynulleidfaoedd ar draws y DU;
  • Rydym yn byw bywyd mwy diogel ar-lein - mae llwyfannau'n cael eu cymell i leihau niwed a gwneud defnyddwyr yn fwy diogel; a
  • Galluogi gwasanaethau di-wifr yn yr economi ehangach - sicrhau defnydd effeithlon o sbectrwm a chefnogi twf ar draws yr economi.

Rydym yn croesawu ymatebion i'n Cynllun Gwaith arfaethedig erbyn 5pm ar 9 Chwefror 2024. Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiadau ym mis Ionawr a Chwefror ym mhob gwlad er mwyn cywain adborth ar ein cynllun arfaethedig. Byddwn yn cyhoeddi ein cynllun terfynol ym mis Mawrth 2024.

Ymateb i’r ymgynghoriad hwn

Anfonwch eich ymatebion drwy ddefnyddio’r ffurflen ymateb i ymgynghoriad (ODT, 98.1 KB).

Events

We will be hosting four consultation events across the UK to give stakeholders an opportunity to hear more about our proposals. Our London event, for stakeholders based in England, will take place on Wednesday 24 January at our London office and online. Register here.

Register to secure your place at our events for Wales, Scotland and Northern Ireland stakeholders below.

Responding to this consultation

Please submit responses using the consultation response form (ODT, 97.9 KB).

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Plan of Work team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig