Mae cyfathrebu’n gwneud i’n byd droi – ac yn Ofcom rydym wedi bod yn gwneud yn siŵr nad oes dim yn rhwystro hynny ers
20 mlynedd.
Ers ein sefydlu yn 2003, mae’r byd cyfathrebu deinamig wedi golygu bod llawer o newid wedi bod i awdurdod fel ni ddelio ag ef. O fand eang i wasanaethau symudol a darlledu byw i ffrydio, mae graddfa'r esblygiad yn golygu bod rheoleiddio’n daith barhaus, gyda sawl tro yn y ffordd.
Rydym yn frwd dros gadw ar y blaen i’r newidiadau i wneud yn siŵr bod cyfathrebiadau’n parhau i weithio i bawb dros yr 20 mlynedd nesaf a thu hwnt.
Mae ein hadroddiad blynyddol a’n cyfrifon ar gyfer 2023/24 yn dangos effaith ein gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf, ac rydym yn edrych ymlaen at lywio’r hyn sy’n digwydd nesaf
Uchafbwyntiau 2023/24
Trefn newydd
Fe wnaethom ymgymryd yn ffurfiol â’n rôl fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein, a mynd ati ar unwaith i nodi cynlluniau i fynd i’r afael â chynnwys niweidiol anghyfreithlon a diogelu plant pan fyddan nhw ar-lein.
Rheoleiddio llwyfannau rhannu fideos
Bydd pobl sy’n defnyddio llwyfannau rhannu fideos yn cael eu hamddiffyn yn well, diolch i’n hymchwil i’r llwyfannau a’n hymgysylltiad â darparwyr.
Gweithio gyda’n gilydd
Mae angen ateb byd-eang ar gyfer her fyd-eang. Rydym wedi parhau i weithio gyda sefydliadau cyfatebol ledled y byd i gael y canlyniadau gorau o’n hymdrechion ar y cyd.
Gwell bargeinion i gwsmeriaid
Bydd cwsmeriaid telegyfathrebiadau yn ei chael hi’n haws rheoli eu costau, diolch i’r gwaharddiad y gwnaethom ei gynnig ar godi prisiau ar ganol contract sy’n gysylltiedig â chwyddiant, a rheolau newydd sy’n mynnu bod darparwyr yn gwneud contractau’n gliriach.
Marchnad sy’n addas ar gyfer y dyfodol
Bydd cwsmeriaid yn elwa o fuddsoddiad a chystadleuaeth barhaus mewn telegyfathrebiadau, ar ôl i ni lansio ein hadolygiad mawr nesaf o’r farchnad.
Adolygu marchnadoedd digidol
Roedd ein hastudiaeth marchnad o wasanaethau cwmwl yn y DU, ac adolygiad o niwtraliaeth y rhyngrwyd, wedi nodi gwelliannau a fydd yn arwain at ganlyniadau gwell i ddefnyddwyr.
Y post, yn awr ac yn y dyfodol
Nod ein hadolygiad o’r gwasanaeth post cyffredinol, a’r cynigion ar gyfer ei ddyfodol, yw sicrhau ei fod yn parhau i wasanaethu ei ddefnyddwyr yn ogystal â sicrhau ei fod yn gynaliadwy.
Monitro’r Post Brenhinol
Roedd ein canfyddiadau bod y Post Brenhinol wedi methu ei dargedau danfon ar gyfer gwasanaethau dosbarth cyntaf ac ail ddosbarth yn golygu ein bod wedi gorfod rhoi dirwy sylweddol.
Fforddiadwyedd i ddefnyddwyr
Gall cwsmeriaid barhau i ddefnyddio’r gwasanaeth post am brisiau fforddiadwy ar ôl i ni roi cap prisiau ar stampiau ail ddosbarth.
Tonnau awyr ar gyfer y dyfodol
Fe wnaethom nodi cynlluniau i ddarparu mwy o sbectrwm, a fydd yn golygu bod mwy o bobl yn gallu defnyddio’r cysylltiadau a’r dechnoleg rydym yn dibynnu arnyn nhw bob dydd.
Strategaeth sbectrwm y gofod
Mae ein strategaeth gofod wedi helpu i wella cysylltiadau band eang a symudol, yn ogystal â sicrhau buddion o ran teledu sy’n cael ei ddarlledu, cyfathrebu mewn argyfwng, a monitro’r hinsawdd.
Gweithio’n rhyngwladol
Mae ein gwaith parhaus gyda sefydliadau cyfatebol rhyngwladol wedi bod yn hanfodol i sicrhau bod y DU yn cael ei chynrychioli’n dda mewn penderfyniadau byd-eang a thrafodaethau ar sbectrwm.
Cefnogi cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus
Mae Deddf Cyfryngau'r Llywodraeth yn cynnig newidiadau i’r dirwedd cyfryngau a fydd yn dwyn budd i gynulleidfaoedd a darlledwyr. Mae ein map, a gyhoeddwyd eleni, yn nodi sut byddwn yn rhoi’r newidiadau hyn ar waith.
Edrych ymlaen i weld beth fydd dyfodol teledu
Rydym wedi edrych ar sut mae’r defnydd o deledu yn newid. Bydd ein canfyddiadau a’n hargymhellion yn helpu darlledwyr i ddelio â datblygiadau mewn technoleg ac ymddygiad cynulleidfaoedd.
Rheoleiddio’r BBC
Bydd ein hadolygiadau o’r BBC yn helpu i sicrhau ei fod yn gwasanaethu ei gynulleidfaoedd – gan gynnwys gwelliannau i gynulleidfaoedd sy’n teimlo nad yw ei allbwn yn diwallu eu hanghenion ar hyn o bryd.
Diogelu cynulleidfaoedd
Mae rhyddid mynegiant darlledwyr yn bwysig, ac mae diogelu gwylwyr yn bwysig hefyd. Fe wnaethom asesu degau o filoedd o gwynion gan bobl am bethau roedden nhw wedi’u gweld neu wedi’u clywed ar y teledu a’r radio, yn ogystal â pharhau â’n hymchwil i agweddau gwylwyr at gynnwys a allai fod yn sarhaus neu
achosi trallod i rai pobl.
Hygyrchedd i bawb
Bydd ein canllawiau a’n hadroddiad ar wasanaethau mynediad ac Amserlenni Rhaglenni Electronig yn helpu pobl sy’n fyddar, sy’n colli eu clyw, sy’n ddall neu sy’n rhannol ddall, i allu cael gafael ar raglenni teledu sydd ar gael i bawb a’u mwynhau.
Rheoleiddio hysbysebion
Fe wnaethom adolygu rheolau hysbysebu ar adeg o her fasnachol i ddarlledwyr. Fe wnaethom barhau hefyd â’n paratoadau ar gyfer cyflwyno rheolau llymach o ran hysbysebu cynnyrch bwyd a diod sy’n llai iachus.