Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi ei Chynllun Gwaith ar gyfer 2024/25, sy'n amlinellu ei meysydd â ffocws ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae'r sectorau a reoleiddiwn - darlledu, post, telathrebu, sbectrwm a gwasanaethau ar-lein - yn hanfodol ym mywydau bob dydd pobl, boed yn y cartref, yn y gwaith neu'r ysgol. Maent hefyd yn esblygu'n gyson, gyda thechnoleg yn datblygu, marchnadoedd yn trawsnewid, ac ymddygiad defnyddwyr yn newid. Mae'n golygu bod ein cenhadaeth i sicrhau bod cyfathrebiadau'n gweithio i bawb yn parhau i fod mor bwysig ag erioed.
Y deuddeg mis nesaf hefyd fydd y flwyddyn ariannol lawn gyntaf ers pasio'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein – yr ehangiad mwyaf ym mhwerau Ofcom mewn ugain mlynedd. Bydd yn gweld cerrig milltir arwyddocaol wrth i ni weithredu ein dyletswyddau newydd.
Mae'r Cynllun Gwaith yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod ac yn esbonio sut y byddwn yn eu cyflawni. Dyma nhw:
- Rhyngrwyd y gallwn ddibynnu arno - sicrhau cysylltiadau a gwasanaethau cyflym, dibynadwy a fforddiadwy i bawb, ym mhobman;
- Cyfryngau yr ydym yn ymddiried ynddynt ac yn eu gwerthfawrogi – cefnogi amrywiaeth eang o gyfryngau i ddarparu cynnwys o ansawdd uchel, ac amddiffyn cynulleidfaoedd tra’n sicrhau bod rhyddid mynegiant yn cael ei ddiogelu;
- Rydyn ni'n byw bywyd mwy diogel ar-lein– rhoi’r drefn diogelwch ar-lein newydd ar waith fel bod llwyfannau’n fwy diogel i’w defnyddwyr; a
- Galluogi gwasanaethau di-wifr yn yr economi ehangach - sicrhau defnydd effeithlon o sbectrwm a chefnogi twf ar draws yr economi.
Ochr yn ochr â hyn, rydym hefyd wedi cyhoeddi diweddariad heddiw ar ddull gweithredu strategol Ofcom ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial (AI) 2024/25 (PDF, 272.0 KB).
Er i AI gael ei ddefnyddio yn y sectorau a reoleiddiwn ers blynyddoedd, mae ei fabwysiad a'i alluoedd yn tyfu'n gyflym.
Rydym yn gefnogol o Egwyddorion AI Llywodraeth y DU, ac mae'r diweddariad a gyhoeddir heddiw yn nodi ein hymagwedd at AI dros y flwyddyn i ddod er mwyn sicrhau bod manteision AI yn cael eu harneisio a bod y risgiau wedi'u rheoli.