
Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi ei gynllun gwaith ar gyfer 2025/26 ochr yn ochr â glasbrint ar gyfer sut byddwn yn cyflawni ein cenhadaeth i sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb dros y tair blynedd nesaf.
Mae technoleg wrth galon y sectorau rydym yn eu rheoleiddio – telegyfathrebiadau, post, darlledu, gwasanaethau ar-lein a sbectrwm – ac mae’n helpu i sbarduno arloesedd a thwf economaidd sylweddol. Mae ein dull rheoleiddio yn meithrin y twf hwnnw, gan annog cystadleuaeth am syniadau yn ogystal â marchnadoedd, er mwyn sicrhau canlyniadau cynaliadwy i ddefnyddwyr ac i’r economi.
Cynllun Gwaith ar gyfer 2025/26
Mae ein Cynllun Gwaith blynyddol yn amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod ac yn egluro sut byddwn yn eu cyflawni. Dyma nhw:
- Rhyngrwyd a phost y gallwn ddibynnu arnyn nhw - diogelu buddiannau defnyddwyr a galluogi pawb i gael gafael ar wasanaethau a rhwydweithiau cyflym a dibynadwy;
- Cyfryngau rydym ni’n ymddiried ynddyn nhw ac yn eu gwerthfawrogi - sicrhau bod cynulleidfaoedd ledled y DU yn gallu parhau i gael gafael ar amrywiaeth o gyfryngau darlledu ac ar-alw a’u bod yn cael eu diogelu rhag cynnwys niweidiol;
- Rydym ni’n byw bywyd mwy diogel ar-lein - sicrhau bod darparwyr yn cydymffurfio â’u rhwymedigaethau i ddiogelu defnyddwyr, gan barhau i weithredu’r drefn ar yr un pryd; a
- Galluogi gwasanaethau di-wifr yn economi’r DU - sicrhau bod sbectrwm yn parhau i fod yn alluogwr effeithiol ar gyfer cyfathrebiadau di-wifr a chefnogi twf ar draws yr economi.
Mae gwaith mawr y flwyddyn nesaf yn cynnwys: adolygiad pum mlynedd o farchnadoedd telegyfathrebiadau cyfanwerthol y DU; diwygio’r gwasanaeth post cyffredinol; rhoi’r Ddeddf Cyfryngau ar waith a chwblhau adolygiad eang o gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus; parhau i ddarparu mwy o sbectrwm, gan gynnwys ar gyfer y sector gofod; a pharhau i weithredu cyfreithiau diogelwch ar-lein newydd y DU – gan symud i orfodi cwmnïau sy’n methu cydymffurfio.
Cynllun tair blynedd
Ochr yn ochr â hyn, rydym yn cyhoeddi ein Cynllun Tair Blynedd, sy’n nodi uchelgeisiau a blaenoriaethau tymor hwy Ofcom ar gyfer 2025-2028.
Mae rheoleiddio da a thwf economaidd yn mynd law yn llaw. Gan ystyried prif ysgogwyr newid ar draws ein sectorau – sef newid anghenion defnyddwyr, effaith trawsnewid digidol ar fusnesau, a chwestiynau a godir gan dechnolegau newydd – byddwn yn parhau i gefnogi arloesedd a chefnogi buddsoddiad yn y rhwydweithiau a’r gwasanaethau newydd sydd eu hangen ar y DU.
Mae hynny’n golygu canolbwyntio’n barhaus dros y tair blynedd nesaf ar hybu buddsoddiad mewn band eang a symudol; defnyddio sbectrwm i bweru arloesi ar draws yr economi; cefnogi diwydiannau creadigol y DU; a helpu busnesau bach.