Ymgynghoriad: Cynllun Gwaith arfaethedig Ofcom ar gyfer 2025/26

Cyhoeddwyd: 4 Rhagfyr 2024
Ymgynghori yn cau: 29 Ionawr 2025
Statws: Agor

Fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau cydgyfeiriol y DU, mae Ofcom yn gweithio gyda diwydiannau sydd â thechnoleg wrth eu calon. Mae’r rhain yn sectorau sydd wedi sbarduno arloesedd a thwf economaidd sylweddol dros ddegawdau lawer.

Mae ein dull rheoleiddio wedi ceisio meithrin a chefnogi twf a tharfu, gan gredu mai cystadleuaeth am syniadau yn ogystal â marchnadoedd yw’r ffordd iawn o sicrhau canlyniadau cynaliadwy i ddinasyddion, defnyddwyr a’r economi.

Mae gennym rôl i’w chwarae yn esblygiad rhwydweithiau a gwasanaethau, o ddarparu sbectrwm ar gyfer band eang lloeren a symudol, i helpu pobl i fyw bywydau mwy diogel mewn byd ar-lein gyda Deallusrwydd Artiffisial a chynnwys a gynhyrchir ganddo.

Mae’r Cynllun hwn yn nodi’r gwaith y byddwn yn ei wneud yn 2025/26 tuag at ein cenhadaeth i sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb, a sut byddwn yn cyflawni.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad.

Sut i ymateb

Cyfeiriad

Plan of Work team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA

Yn ôl i'r brig