PoW-24-25-(Web)

Ymgynghoriad: Ofcom yn cyhoeddi ei Gynllun Gwaith arfaethedig ar gyfer 2025/26

Cyhoeddwyd: 4 Rhagfyr 2024

Heddiw mae Ofcom wedi cyhoeddi ei Gynllun Gwaith arfaethedig ar gyfer 2025/26, gan amlinellu ei feysydd gwaith ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae ein cynllun yn sefydlu ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn a sut y byddwn yn gweithio i’w cyflawni. Dyma’r blaenoriaethau:

  • Rhyngrwyd a phost y gallwn ddibynnu arnynt;
  • Cyfryngau rydym yn ymddiried ynddynt ac yn eu gwerthfawrogi;
  • Byw bywyd mwy diogel ar-lein;
  • Galluogi gwasanaethau di-wifr yn economi’r DU.

Rydyn ni’n croesawu ymatebion i’n Cynllun Gwaith arfaethedig erbyn 5pm ar 29 Ionawr 2025.

Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiadau ym mis Ionawr ym mhob gwlad i gael adborth ar ein cynllun arfaethedig.

Byddwn yn cyhoeddi ein cynllun terfynol ym mis Mawrth 2025.

Yn ôl i'r brig