Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi ei chynllun gwaith ar gyfer 2022/23, sy'n amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae gwasanaethau cyfathrebu'n sail i'r ffordd y mae pobl yn byw, yn dysgu ac yn gweithio yn y DU heddiw. O deledu i radio, o delathrebu i'r post, dros y tonnau awyr ac ar-lein - cenhadaeth Ofcom yw sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb ar draws y DU, ar adeg o newid digynsail.
Yn sgil ymgynghori, a fu'n cynnwys digwyddiadau rhithwir i gywain adborth, rydyn ni heddiw wedi amlinellu ein blaenoriaethau strategol ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Themâu Ofcom ar gyfer 2022/23
- Buddsoddi mewn rhwydweithiau cryf a diogel. Byddwn yn cefnogi buddsoddiad parhaus mewn rhwydweithiau band eang a symudol o ansawdd uchel a dibynadwy.
- Cael cysylltiad i bawb. Rydym am sicrhau bod pobl a busnesau'n gallu cael mynediad at wasanaethau cyfathrebu, ac nad oes neb yn cael ei adael ar ôl wrth i wasanaethau esblygu. Byddwn yn gweithio i sicrhau bod y gwasanaeth post cyffredinol yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
- Tegwch i gwsmeriaid. Byddwn yn cefnogi cwsmeriaid ac yn sicrhau eu bod yn cael eu trin yn deg, gan barhau â'n rhaglen Tegwch i Gwsmeriaid a thaclo sgamiau. A ninnau wedi pennu safonau clir, byddwn yn symud ein ffocws i fonitro a deall effaith gweithredu a chyflwyno'r ymyriadau hynny.
- Galluogi gwasanaethau di-wifr yn yr economi ehangach. Rydym yn rheoli sbectrwm y DU er budd pawb yn y DU. Ein nod yw symbylu effeithlonrwydd a chefnogi arloesedd, gan sicrhau bod yr adnodd anweledig, hanfodol a chyfyngedig hwn yn cael ei ddefnyddio'n effeithlon.
- Cefnogi a datblygu cyfryngau'r DU. Byddwn yn cefnogi sector cyfryngau bywiog y DU, gan gynnwys cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, a'i helpu i esblygu i ddiwallu anghenion newidiol gwylwyr a gwrandawyr.
- Gwasanaethu a diogelu cynulleidfaoedd. Byddwn yn diogelu pobl rhag cynnwys a allai fod yn niweidiol ac yn dramgwyddus, ar yr un pryd â rhoi ystyriaeth lawn i ryddid mynegiant. Byddwn yn parhau i gyhoeddi, rheoli a chynnal trwyddedau ar gyfer yr holl wasanaethau teledu a radio masnachol cenedlaethol a lleol.
- Sefydlu rheoleiddio diogelwch ar-lein. Byddwn yn sefydlu ein gwaith o reoleiddio llwyfannau rhannu fideos a sefydlir yn y DU wrth i ni barhau i baratoi at y drefn diogelwch ar-lein ehangach. Byddwn yn dwysau ein paratoadau sefydliadol ar gyfer ein cyfrifoldebau rheoleiddio newydd wrth i'r Mesur Diogelwch Ar-lein fynd drwy Senedd y DU.
Mae'r Cynllun Gwaith hefyd yn cynnwys ein rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn nesaf, sy'n esbonio'r gweithgareddau allweddol y byddwn i gyd yn ymgymryd â nhw dros y 12 mis nesaf ar draws ein gwaith i gyd.