Adroddiad A Chyfrifon Blynyddol Ofcom 2022/23

Cyhoeddwyd: 13 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd diwethaf: 13 Gorffennaf 2023

ADRODDIAD A CHYFRIFON BLYNYDDOL OFCOM 2022/23

Fel rheoleiddiwr y DU, ein gweledigaeth yw sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb. Mae'r adroddiad hwn yn nodi sut mae Ofcom wedi perfformio yn erbyn ein hamcanion yn 2022/23, ac effaith ein gwaith ar bobl a busnesau yn y DU.

2022-23-Cover-image

Ein blwyddyn mewn rhifau

Erbyn Medi 2022, gallai

70%

o gartrefi gael band eang cyfradd gigabit, o'i gymharu â 47% yn 2021

Mae nifer y safleoedd sy'n methu cael band eang digonol wedi gostwng i

435,000

Bu i ni asesu

36,908

o gwynion am raglenni teledu a radio

Bu i ni recriwtio dros

150

o weithwyr newydd wrth baratoi at ddyletswyddau diogelwch ar-lein newydd

Ar ran Trysorlys EM, casglwyd

1,163m

o ffioedd a chosbau

Rydym wedi torri ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr cyffredinol

60%

o waelodlin 2017/18

Uchafbwyntiau 2022/23

  • Band eang gwell: mae rheoliadau newydd, a osodwyd ym mis Mawrth 2021 ac sydd wedi’u dylunio i gymell a chefnogi buddsoddiad mewn rhwydweithiau ffeibr llawn newydd, yn cael effaith gadarnhaol. Mae rhwydweithiau ffeibr llawn yn ehangu’n gyflym, gyda dros 50% o aelwydydd yn y DU ym mis Mawrth yn cael eu pasio gan o leiaf un darparwr, sy’n gyfystyr â thwf o 17 pwynt canran mewn ychydig dros flwyddyn – a chynnydd o bron i saith gwaith o’I gymharu â phum mlynedd yn ôl.
  • Dyfodol gwasanaethau symudol: mae’r galw am wasanaethau symudol yn dal I dyfu’n gyflym. Mae angen buddsoddiad I gefnogi rhwydweithiau. Er mwyn annog buddsoddiad, roeddem wedi egluro ein dull gweithredu ar gyfer y farchnad symudol yn y dyfodol a dyrannu tonnau awyr. Er mwyn helpu pobl i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch pa ddarparwr symudol i’w ddefnyddio, rydym yn datblygu gwybodaeth well am ansawdd rhwydweithiau.
  • Rhwydweithiau diogel a saff: bydd dyletswyddau newydd a gyflwynwyd o dan Ddeddf Telegyfathrebiadau (Diogelwch) 2021 yn ein helpu i ddiogelu pobl gyda rhwydweithiau diogel. Rydym yn gweithio’n agosach nag erioed gyda’r diwydiant i gefnogi diogelwch a chadernid. Gwnaethom barhau i helpu i roi strategaeth Llywodraeth y DU ar amrywiaethu gwerthwyr ar waith, gyda’r nod o sicrhau marchnad gyflenwi telegyfathrebu gystadleuol, arloesol, diogel a chadarn.
  • Post fforddiadwy a dibynadwy: yn dilyn adolygiad o ddyfodol rheoleiddio’r post, bydd defnyddwyr y post yn dal i allu cael gafael ar y gwasanaethau syml, fforddiadwy a dibynadwy. Mae rheolau newydd yn golygu mwy o amddiffyniadau i gwsmeriaid parseli hefyd.
  • Darpariaeth symudol gyffredin: mae cael signal symudol da yn hanfodol er mwyn i bobl gadw mewn cysylltiad, ac I fyw a gweithio wrth symud. Gwnaethom oruchwylio cynnydd gweithredwyr symudol o ran adeiladu Rhwydwaith Gwledig a Rennir i wella derbyniad mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd, gan gynnwys teithio 42,000 o filltiroedd i brofi darpariaeth a sicrhau bod gweithredwyr yn darparu data cywir..
  • Telegyfathrebiadau cyffredinol: rydym yn parhau i weithredu’r cynllun Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol Band Eang sy’n golygu bod band eang teilwng ar gael i filoedd yn rhagor o gartrefi erbyn hyn. Gwnaethom benderfyniadau I ddiogelu blychau ffôn lle mae eu hangen fwyaf o hyd ac i ddileu’r gofynion ynghylch darparu gwasanaethau peiriannau ffacs.
  • Ffôn a band eang fforddiadwy: gyda chostau byw yn cynyddu, roeddem wedi pwyso ar fwy o ddarparwyr i gynnig tariffau cymdeithasol, ac wedi annog y rheini sy’n gwneud hynny i’w hyrwyddo’n fwy effeithiol. Mae’r nifer sy’n manteisio arnynt wedi cynyddu’n sylweddol, ond gallai miliynau mwy o bobl elwa o hyd.
  • Diogelu defnyddwyr: Dylai cwsmeriaid gael yr wybodaeth gywir, ar yr adeg iawn, am eu contractau - gan eu helpu i wneud dewisiadau gwell, gan felly, yn aml, arbed arian o ganlyniad I hynny. Rydym yn monitro cydymffurfiad â’n rheolau’n gyson, gan agor ymchwiliadau lle rydym yn credu bod darparwyr yn methu.
  • Mynd i’r afael â sgamiau: Mae sgamiau’n achosi niwed ariannol ac emosiynol i filiynau o bobl, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed. Mae ein hymyriad yn golygu bod rhaid i ddarparwyr wneud mwy i helpu i atal rhifau ffôn rhag cael eu camddefnyddio. Roeddem hefyd wedi codi ymwybyddiaeth o alwadau niwsans drwy gyfryngau cymdeithasol a sianeli eraill.
  • Rhyddhau sbectrwm: Sbectrwm radio, adnodd cenedlaethol y mae llawer iawn o alw amdano, yw’r seilwaith di-wifr sy’n cefnogi bywydau modern, busnesau a’r economi ddigidol. Fe wnaethom nodi sbectrwm newydd sy’n gallu cefnogi gwasanaethau arloesol sy’n tyfu gan ddefnyddio dyfeisiau symudol, dronau a lloerennau, ac edrych ar sut gellid ei ryddhau i sefydliadau sydd eisiau cynnig y gwasanaethau hyn.
  • Cymorth Gemau’r Gymanwlad: Buom yn gweithio’n agos gyda phwyllgor trefnu Gemau’r Gymanwlad Birmingham 2022 I gynnal digwyddiad hynod lwyddiannus. Fe wnaeth ein tîm sbectrwm gyhoeddi trwyddedau sbectrwm blaenoriaeth ar gyfer amrywiaeth o offer di-wifr hanfodol fel meicroffonau, camerâu, monitorau yn y glust a walkie-talkies, gan roi rhagor o brofiad gweithredol i ni y gallwn ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol mawr tebyg yn y dyfodol.
  • Strategaeth gofod: Bydd pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig a theithwyr ar awyrennau a llongau yn cael band eang gwell, ar ôl i ni gyhoeddi mwy o donnau awyr ar gyfer gwasanaethau lloeren, gan ddyblu’r capasiti sydd ar gael
  • Sicrhau amrywiaeth ym maes darlledu: Dylai’r sector darlledu fod mor amrywiol â’r cynulleidfaoedd y mae’n eu gwasanaethu. Rydym wedi ehangu ehangder y data rydym yn ei gasglu ar weithluoedd darlledwyr i helpu I hyrwyddo tegwch, amrywiaeth a chynhwysiad, ar ôl i ni nodi rhagor o welliannau yr oedd angen i’r sector eu gwneud. Fe wnaethom gyhoeddi fframwaith a chanllawiau newydd ar sut rydym yn casglu ac yn defnyddio’r data amrywiaeth hwn.
  • Sicrhau bod rheoleiddio yn addas i’r diben: Rydym wedi parhau i weithio gyda’r Llywodraeth a’r diwydiant i sicrhau bod rheoleiddio’n cyd-fynd â newidiadau yn y sector ac ymddygiad cynulleidfaoedd. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r Llywodraeth i wneud yn siŵr bod ei system reoleiddio Newydd arfaethedig, o dan y Bil Cyfryngau, yn gweithio I gynulleidfaoedd, ac rydym eisoes wedi ehangu ein gwaith yn edrych ar effeithiau technolegau newydd a thechnolegau sy’n dod i’r amlwg.
  • Rheoleiddio’r BBC: Fe wnaethom gwblhau adolygiad o sut rydym yn rheoleiddio’r BBC, a sut mae’n ymgysylltu â chynulleidfaoedd, cystadleuwyr ac achwynwyr. Arweiniodd yr adolygiad hwn at Drwydded Weithredu wedi’I diweddaru ar gyfer y BBC. Yn ein hadroddiad blynyddol ar y BBC, gwelsom er ei fod yn parhau i gyflawni ei gylch gwaith, mae cynulleidfaoedd o grwpiau economaidd-gymdeithasol is yn llai tebygol o ddefnyddio ei wasanaethau ac yn llai bodlon arno’n gyffredinol
  • Cynnal safonau darlledu: Rydym wedi parhau i osod a gorfodi safonau darlledu, i ddiogelu cynulleidfaoedd rhag cynnwys niweidiol ar deledu a radio, ac i ystyried pwysigrwydd awl darlledwyr i ryddid mynegiant. Eleni, gwnaethom asesu 37,109 o gwynion, cwblhau 128 o ymchwiliadau a chanfod 77 achos a oedd yn torri ein rheolau darlledu.
  • Gwasanaethau radio digidol Newydd: Eleni rydym wedi parhau i drwyddedu gwasanaethau radio digidol DAB Newydd ar raddfa fach ledled y DU. Mae ein rhaglen drwyddedu yn y maes hwn wedi arwain at 177 o orsafoedd radio digidol newydd ar yr awyr ledled y DU, gan roi mynediad i wrandawyr at amrywiaeth o gynnwys lleol ac arbenigol sy’n diwallu eu hanghenion.
  • Sicrhau bod cynnwys yn hygyrch i bawb: Rydym wedi parhau i orfodi gofynion sylfaenol ar gyfer gwasanaethau mynediad fel isdeitlau, disgrifiadau sain ac iaith arwyddion. Rydym wedi canfod fod Channel 4 wedi torri amodau ei drwydded darlledu yn dilyn cyfnod segur estynedig yn ei wasanaethau mynediad yn 2021. Nid oedd yn bodloni’r gofyniad i isdeitlo 90% o’I oriau rhaglenni ar Freesat ac roedd wedi methu cyfathrebu â chynulleidfaoedd am y peth. Fe wnaeth adolygiad ar wahân ganfod y dylai sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau darlledu adolygu’r cynlluniau wrth gefn sydd ganddynt ar waith ar gyfer methiannau trosglwyddo. Fe wnaethom hefyd lansio adolygiad o’n canllawiau ar gyfer hygyrchedd darlledu, gan gynnwys canllawiau penodol ar wasanaethau ar-alw.
  • Paratoi ar gyfer pwerau newydd: Rydym yn nodi map ar gyfer rheoleiddio, gan gynnwys yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gan gwmnïau rheoledig a’r hyn y byddwn yn ei wneud yn y 100 diwrnod cyntaf ar ôl i’n pwerau diogelwch ar-lein gael eu rhoi. Gwnaethom gyhoeddi dwy alwad am dystiolaeth, un yn canolbwyntio ar risgiau cynnwys anghyfreithlon a mesurau lliniaru a gofynion tryloywder a’r llall ar risgiau i blant a sut gellir eu lleihau.
  • Ehangu ein harbenigedd: Cyn ymgymryd â’n pwerau newydd, fe wnaethom barhau I ddatblygu ein harbenigedd mewn technolegau digidol, dadansoddi data a seiberddiogelwch, gyda swyddi newydd gan gwmnïau technoleg mawr, y byd academaidd a’r byd polisi. Fe wnaethom dyfu ein Canolfan Data ac Arloesi a’n canolfan ym Manceinion. Gwnaethom hefyd gyhoeddi arweinydd newydd ar gyfer ein Grŵp Diogelwch Ar-lein, cyn weithredwr Google, Gill Whitehead.
  • Llwyfannau rhannu fideos: Fe wnaethom ddefnyddio ein pwerau casglu gwybodaeth statudol i gyfrannu at adroddiad ar yr hyn mae llwyfannau rhannu fideos yn ei wneud i ddiogelu eu defnyddwyr, gan ddod o hyd i lawer o lwyfannau sy’n barod i gael eu rheoleiddio. Mae’r adroddiad yn nodi ein prif ganfyddiadau o’r flwyddyn gyntaf o reoleiddio. Rydym wedi datblygu gwybodaeth sylfaenol gynhwysfawr am y sector llwyfannau rhannu fideos drwy ein rhaglen o waith ymchwil, ymgysylltu goruchwyliol a chasglu gwybodaeth. Er bod gan bob llwyfan fesurau diogelwch ar waith, mae angen mesurau cadarnach i atal plant rhag cael mynediad at bornograffi.

Dogfennau i'w lawrlwytho

Yn ôl i'r brig