Ymgynghoriad: Cynllun Blynyddol Arfaethedig 2019/20

Cyhoeddwyd: 3 Rhagfyr 2018
Ymgynghori yn cau: 8 Chwefror 2019
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Datganiad a gyhoeddwyd 25 Mawrth 2019 

Mae'r ddogfen hon yn egluro ein cynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae'n dilyn ymgynghoriad ynglŷn â'n cynlluniau arfaethedig, ddaeth i ben ar 8 Chwefror 2019. Mae'r cynigion yn ystyried y dyletswyddau a roddwyd i ni gan y Senedd Brydeinig, y marchnadoedd rydyn ni'n eu rheoleiddio a'n blaenoriaethau strategol ein hunain.

Mae ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn adlewyrchu'r adborth cawson ni yn ystod y broses ymgynghori. Cawson ni adborth gan bobl ar draws y DU, gan gynnal digwyddiadau cyhoeddus yng Nghaerdydd, Belfast, Caeredin a Llundain.

Yn ystod ein cyfnod ymgynghori, fe wnaeth y Llywodraeth Brydeinig gyhoeddi datganiad drafft o'i blaenoriaethau strategol ar gyfer telathrebu, rheoli sbectrwm a phost. Rydyn ni'n esbonio yn adran 3 sut rydyn ni wedi ystyried y datganiad drafft hwn wrth lunio ein cynllun.

Rydyn ni'n darparu trosolwg o'n blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf isod. Cewch ragor o wybodaeth amdanynt a'n gwaith rhaglennol yn adrannau 3 a 4. Mae uchafbwyntiau ein gwaith yn y cenhedloedd yn adran 5. Gallwch ddarllen ein cynllun gwaith ehangach yn Atodiad 2.

Gwnaeth Ofcom gynnal digwyddiadau cyhoeddus i drafod ein Cynllun Blynyddol arfaethedig. Roedd y digwyddiadau hyn yn rhoi'r cyfle i randdeiliaid ac aelodau o'r cyhoedd o bob rhan o'r DU i roi barn am ein mesydd gwaith arfaethedig ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Roedd pob digwyddiad yn dechrau gyda chyflwyniad byr ac yna cafwyd cyfle i gynnig sylwadau ac i ofyn cwestiynau. Roedd y cyfarfodydd i gyd yn rhad ac am ddim. Cafodd y digwyddiadau hyn eu cynnal yng Nghaerdydd, Belfast, Caeredin a Llundain yn gynnar yn 2019.

Cymru

Pryd: Dydd Gwener, 25 Ionawr 11.30-13.30
Ble: Swyddfa Ofcom Cymru, 2 Pwynt Caspian, Ffordd Caspian, Caerdydd, CF10 4DQ
Ateber: Elinor.Williams@ofcom.org.uk erbyn 18 Ionawr

Lloegr

Pryd: Dydd Iau 17 Ionawr, 14:00 – 15:00
Ble: Glazier’s Hall, 9 Montague Cl, Llundain SE1 9DD
Ateber: drwy Eventbrite

Gogledd Iwerddon

Pryd: Dydd Mawrth 15 Ionawr, 12:30 – 14:30
Ble: Clayton Hotel, 22-26, Ormeau Ave, Belfast BT2 8HS
Ateber: ofcomeventsni@ofcom.org.uk

Yr Alban

Pryd: Dydd Iau 31 Ionawr, 10:00 – 12:00
Ble:     Swyddfa Ofcom yng Nghaeredin, 125 Princes Street, Caeredin EH2 4AD
RSVP: Diarmuid.Cowan@ofcom.org.uk

Ymatebion

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Annual Plan Team, Strategy and Policy Team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig