Datganiad hygyrchedd ar gyfer SPECTRAsc

Cyhoeddwyd: 3 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Datganiad yw hwn ar gyfer SPECRAsc, sef offeryn Ofcom ar gyfer clirio ar-lein ar gyfer Gorsafoedd Daearol Cludadwy, mae’n berthnasol i bob tudalen we sy’n dechrau gyda secure.ofcom.org.uk/SPECTRAsc.

Ofcom sy'n cynnal y wefan hon. Rydym am sicrhau bod cynifer â phosib o bobl yn gallu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech chi allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo i mewn hyd at 200% heb golli'r testun oddi ar y sgrin
  • llywio drwy ran o'r wefan gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd
  • llywio drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
  • Cael strwythur penawdau ystyrlon ar y rhan fwyaf o dudalennau
  • Mwynhau safonau AA o ran 1.4.3 Cyferbyniad
  • Gwneud cais rhesymol am fformatau eraill, y bydd Ofcom yn eu hystyried
  • Rydym wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosibl

Mae cyngor ar gael ar AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • Labeli maes ffurf gwag ar reolyddion mewngofnodi
  • Dim hyperddolen ar URL AIS
  • Strwythur penawdau ar goll ar y dudalen cymorth a chwestiynau cyffredin
  • Strwythur penawdau ar goll ar y dudalen mewngofnodi
  • Dangosydd ffocws gwael wrth ddefnyddio Internet Explorer
  • Cyferbyniad lliw isel ar y “llwybr briwsion bara”
  • Labeli ffurf gwag a choll ar sgrin Dewis Antena
  • Dydy teitlau’r tudalennau ddim yn unigryw, nid ydynt yn disgrifio eu pwrpas
  • Dydy’r dewiswr dyddiad ac amser ddim yn hygyrch drwy fysellfwrdd
  • Dim anwybyddu dolenni cynnwys wedi'u hailadrodd
  • Dydy’r dogfennau PDF ddim yn hygyrch

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, testun hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â’r tîm Digidol gan ddefnyddio'r ffurflen hon:

Cysylltu â’r Tîm Digidol  

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 21 diwrnod.

Gweithdrefn Gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni dros y ffôn

Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn, drwy’r post neu wneud cwyn drwy ein hyb.  Mae manylion cyswllt ar gael ar ein tudalen cysylltu â ni.  

Yn ystod y cyfnod clo, ni allwn dderbyn galwadau cyfnewid testun neu ganiatáu ymweliadau wyneb yn wyneb.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Ofcom wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 oherwydd y cynnwys nad yw'n hygyrch sydd wedi'i restru isod. 

Cynnwys nad yw’n hygyrch

  • Labeli maes ffurf gwag ar reolyddion mewngofnodi felly ni fydd gwybodaeth am y rheolyddion hyn yn cael ei chyflwyno i'r defnyddiwr.  Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 3.3.2
  • Dim hyperddolen ar URL AIS felly ni all defnyddwyr ei ysgogi gyda llygoden na bysellfwrdd. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 2.4.4
  • Strwythur penawdau ar goll ar y dudalen cymorth a chwestiynau cyffredin. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 2.4.6
  • Strwythur penawdau ar goll ar y dudalen mewngofnodi. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 2.4.6
  • Dangosydd ffocws gwael wrth ddefnyddio Internet Explorer. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 2.4.7
  • Cyferbyniad lliw isel ar y “llwybr briwsion bara”. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 1.4.3
  • Labeli ffurf gwag a choll ar sgrin Dewis Antena. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 3.3.2
  • Dydy teitlau’r tudalennau ddim yn unigryw, nid ydynt yn disgrifio eu pwrpas. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 2.4.2

Mae’r cynnwys uchod wrthi’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ac rydym yn bwriadu ei gywiro erbyn mis Ionawr 2021.

Baich anghymesur

Mae’r canlynol yn defnyddio rhaglen trydydd parti:

  • Dydy'r blwch amledd ddim yn cael ei ailfeintio wrth ddefnyddio chwyddo porwr. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 1.4.10
  • Dydy’r dewiswr dyddiad ac amser ddim yn hygyrch drwy fysellfwrdd.  Nid oedd hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 2.1.1
  • Dydy’r dogfennau PDF a gyflwynir ar ôl clirio ddim yn hygyrch. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 1.1.1

Mae angen ymdrech datblygu uchel ar gyfer y canlynol.  Does dim mwy na 5 dolen i’w hanwybyddu ar bob tudalen cyn cyrraedd y prif gynnwys.

  • Dim anwybyddu dolenni cynnwys wedi'u hailadrodd. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 2.4.1

Rydym wedi asesu’r gost o gywiro’r materion hyn a chredwn y byddai gwneud hynny nawr yn faich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd.  

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 21 Medi 2020.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ym mis Medi 2020. Cynhaliwyd y prawf gan Ofcom, a defnyddiwyd yr offer canlynol:

  • JAWS
  • NVDA
  • Offeryn Gwerthuso WAVE
  • headingsMap
  • Pecyn cymorth ARC
  • Accessibility Insights for Web
  • Gwiriwr Cyferbyniad Lliw WCAG
  • Chwyddo’r Testun yn Unig
  • Darllen yn Uchel
  • Adroddwr
Yn ôl i'r brig